Mytholeg Rufeinig
Mytholeg y byd Rhufeinig yw mytholeg Rufeinig. Er bod sawl elfen ym mytholeg Rufeinig yn deillio o fytholeg Roeg mae nifer o elfennau eraill ynddi sy'n unigryw i ddiwylliant Rhufain yn ogystal. Roedd y Rhufeiniaid yn tueddu i gymathu duwiau a duwiesau o draddodiadau eraill i'w diwyllinat eu hunain hefyd, a cheir sawl enghraifft o dduwiau 'estron' sy'n troi'n dduwiau Rhufeinig, e.e. Isis o'r Hen Aifft.
Stori bwysig ym mytholeg Rufeinig yw stori Romulus a Remus, sylfaenwyr dinas Rhufain.