Afon yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Afon Unk (Saesneg: River Unk). Ei hyd yw tua 15.5 km.

Afon Unk
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.423463°N 3.033184°W Edit this on Wikidata
AberAfon Clun Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd tarddle'r afon ger clawdd o Oes yr Efydd a adnabyddir fel Lower Short Ditch ar y ffin rhwng Swydd Amwythig a sir Powys, Cymru, yng ngogledd Fforest Clun. Oddi yno mae'n llifo ar gwrs dwyreiniol am tua 6.5 km cyn troi i gyfeiriad y de ger Lower Edenhope a llifo heibio i Mainstone, Cefn Einion, a Bicton am 9 km i'w chymer yn Afon Colunwy ('Afon Clun') ger y castell yn nhref Clun.

Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato