Cefn Einion
pentref yn Swydd Amwythig
Pentref bychan gwledig gwasgaredig yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Cefn Einion.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Mainstone yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Mae'n gorwedd 2 filltir i'r de-orllewin o bentref Colebatch rhwng pentrefi bychain Bryn a Mainstone. Nid yw ond tua milltir a hanner o'r ffin â sir Powys, Cymru.
Math | pentrefan |
---|---|
Ardal weinyddol | Mainstone |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.468°N 3.052°W |
Cod OS | SO285861 |
Y trefi agosaf yw Clun a Threfesgob. Mae'r pentref yn gorwedd yn y bryniau tua 280m uwch lefel y môr. Llifa afon Unk heibio i orllewin y pentref.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 27 Medi 2020