Llyn Dulyn (Rhinogydd)
llyn, Gwynedd, Cymru
Llyn yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn Dulyn. Saif i'r gorllewin o Grib y Rhiw, rhwng Y Llethr a Diffwys. Ynghanol y llyn, sydd ag arwynebedd o 5 acer, mae ynys fechan greigiog a elwir "yr allor goch"; dywedid pe byddai rhywun yn gwlychu'r graig yma pan fyddai'n sych, y byddai'r tywydd yn newid cyn nos.
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8°N 3.986°W |
Rheolir gan | RWE Generation UK PLC |
Mae'r afon sy'n llifo o'r llyn yn llifo tua'r gorllewin i mewn i Lyn Bodlyn, ac yna ymlaen tua'r gorllewin fel Afon Ysgethin i gyrraedd y môr gerllaw Tal-y-bont.
Llyfryddiaeth golygu
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)