Agra
Dinas yn nhalaith Uttar Pradesh yn India yw Agra (Hindi: आगरा, Wrdw: آگرا). Saif ar lan Afon Yamuna. Ceir cyfeiriad at y ddinad fel "Agrabana" yn y Mahabharata, a nodir hi ar fap Ptolemi yn yr 2g OC fel "Agra".
Math | dinas, dinas fawr, anheddiad dynol, cyn-brifddinas |
---|---|
Poblogaeth | 1,585,705 |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Yamuna-Ganga Doab |
Sir | Agra district |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 188.4 km² |
Uwch y môr | 171 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 27.18°N 78.02°E |
Cod post | 282001 |
Sefydlwyd y ddinas fodern gan y Swltan Sikandar Lodi, rheolwr Swltaniaeth Delhi yn 1504. Olynwyd ef gan ei fab Swltan Ibrahim Lodi, ond lladdwyd ef ym Mrwydr Gyntaf Panipat pan orchfygwyd Swltaniaeth Delhi gan Babur yn 1526. Daeth y ddinas yn enwog fel prifddinas Ymerodraeth y Mughal o 1526 hyd 1658. Adeiladwyd nifer o adeiladau ysbennydd yma yn y cyfnod yma, ac mae tair Safle Treftadaeth y Byd yn Agra neu gerllaw, y Taj Mahal, Caer Agra a Fatehpur Sikri. Oherwydd hyn, mae'r ddinas yn gyrchfan boblogaidd iawn i ymwelwyr.
Yn 2000 roedd poblogaeth y ddinas yn 1,800,000.