Mae Afon Yamuna (Sanskrit: यमुना, weithiau Jamuna neu Jumna) yn afon yng ngogledd India. Yr Yamuna yw'r fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i mewn i Afon Ganga; mae tua 1370 km o hyd.

Afon Yamuna
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Cyfesurynnau31.0225°N 78.455°E, 25.4225°N 81.8875°E Edit this on Wikidata
AberAfon Ganga Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Tons, Giri, Afon Chambal, Afon Betwa, Afon Ken, Afon Hindon, Afon Sindh Edit this on Wikidata
Dalgylch351,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd1,376 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad3,480 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am yr afon yn India yw hon. Am Afon Jamuna, Bangladesh, gweler Afon Brahmaputra.

Mae tarddle'r afon yn Yamunotri, yn yr Himalaya yn Uttarakhand, i'r gogledd o Haridwar. Mae'n llifo trwy Delhi a thaleithiau Haryana ac Uttar Pradesh, cyn ymuno ag Afon Ganga yn Allahabad. Heblaw Delhi, mae dinasoedd Mathura ac Agra ar ei glannau. Yn Agra mae'n llifo heibio'r Taj Mahal. Mae llygredd yn broblem fawr, yn enwedig yn y rhannau o'r afon o amgylch Delhi.