Mae Uttar Pradesh (Hindi: उत्तर प्रदेश "Talaith Ogleddol"), a elwir yn aml yn U.P., yw'r dalaith fwyaf yn India o ran poblogaeth a'r bumed fwyaf o ran arwynebedd. Roedd y boblogaeth yn 166,052,859 yn 2001, mwy na phoblogaeth Ffrainc, Yr Almaen a'r Iseldiroedd gyda'i gilydd. Dim ond pump gwlad, sef Tsieina, India ei hun, yr Unol Daleithiau, Indonesia a Brasil, sydd a phoblogaeth fwy. Mae wyth dinas yn y dalaith gyda phoblogaeth o filiwn neu fwy.

Uttar Pradesh
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlgogledd Edit this on Wikidata
PrifddinasLucknow Edit this on Wikidata
Poblogaeth199,812,341 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 26 Ionawr 1950 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethYogi Adityanath Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hindi, Wrdw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd243,290 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNational Capital Territory of Delhi, Haryana, Rajasthan, Madhya Pradesh, Chhattisgarh, Jharkhand, Bihar, Seti Zone, Uttarakhand, Western Development Region, Mid-Western Development Region, Himachal Pradesh Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27°N 81°E Edit this on Wikidata
IN-UP Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCouncil of Ministers of Uttar Pradesh Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholUttar Pradesh Legislature Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethRam Naik, Anandiben Patel Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Uttar Pradesh Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethYogi Adityanath Edit this on Wikidata
Map

Mae tiriogaeth Uttar Pradesh yn rhan helaeth o wastadtir Afon Ganga, ac yn dir ffrwythlon iawn. Mae'n ffinio â Nepal ac a thaleithiau Uttarakhand, Himachal Pradesh, Haryana, Delhi, Rajasthan, Madhya Pradesh, Chhattisgarh, Jharkhand a Bihar. Prifddinas y dalaith yw Lucknow, ond Kanpur yw'r ddinas fwyaf a'r ganolfan ddiwydiannol bwysicaf. Dinasoedd pwysig eraill yw Allahabad, Agra, Varanasi (Banaras), Meerut, a Gorakhpur. Yn 2000 ffurfiwyd talaith newydd, Uttarakhand, o ran ogleddol Uttar Pradesh.

Lleoliad Uttar Pradesh yn India

Hindi yw iaith swyddogol y dalaith. Mae 81% o'r boblogaeth yn ddilynwyr Hindŵaeth a tua 18% yn ddilynwyr Islam. Mae Varanasi (Benares) yn ddinas sanctaidd i Hindwaid, ac mae miloedd lawer yn mynd yno fel pererinion. Rhyw 13 km o Varanasi mae Sarnath, sy'n fan sanctaidd i ddilynwyr Bwdhaeth am mai yma y traddododd Gautama Buddha ei bregeth gyntaf. Mae nifer o atyniadau byd-enwog yn y dalaith, yn enwedig y Taj Mahal yn Agra a dinas adfeiliedig Fatehpur Sikri.

Roedd wyth allan o 14 Prif Weinidog India yn hannu o Uttar Pradesh, sef Jawaharlal Nehru, Lal Bahadur Shastri, Indira Gandhi, Rajiv Gandhi, Choudhary Charan Singh, Vishwanath Pratap Singh, Chandra Shekhar ac Atal Behari Vajpayee.


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry