Aias
Arwr Groegaidd y ceir ei hanes yn yr Iliad gan Homeros ac mewn hanesion eraill yw Aias (Lladin: Aiax), hefyd Ajax. Fe'i gelwir yn Aias Fawr i'w wahaniaethu oddi wrth un arall o'r arwyr Groegaidd yng Nghaerdroea, Aias Fychan.
Ganed ef yn ôl traddodiad ar Ynys Salamis, yn fab i Telamon. Disgrifia Homeros ef fel gŵr o faint a nerth enfawr. Ef oedd rhyfelwr ail-orau y Groegiaid a ymladdai i gipio Caerdroea yn yr Iliad; dim ond Achilles oedd yn fwy o bencampwr.
Yn ôl un hanes, wedi i Achilles gael ei ladd, cariodd Aias ei gorff o faes y gad, tra'r oedd Odysseus yn cadw rhyfelwyr Caerdroea draw. Dyfarnwyd arfau Achilles i Odysseus yn hytrach nag i Aiax. Gyrroedd y sarhâd yma Aiax yn wallgof. Lladdodd yrroedd y Groegiaid, gan gredu ei fod yn lladd arweinwyr y Groegiaid, cyn ei ladd ei hun.