Ailddosrannu incwm a chyfoeth
(Ailgyfeiriad o Ailddosbarthu eiddo)
Trosglwyddo cyfoeth, incwm, neu eiddo o unigolion i unigolion eraill yw ailddosbarthu incwm a chyfoeth trwy ddull cymdeithasol megis trethiant, polisïau ariannol, lles, gwladoli, elusen, ysgariad, neu gyfraith tort. Gan amlaf mae'n cyfeirio at ailddosrannu cynyddol, o'r cyfoethog i'r tlawd, er enghraifft trwy dreth gynyddol, ond gall hefyd gyfeirio at ailddosrannu atchwel, o'r tlawd i'r cyfoethog. Ceir nifer o wahanol safbwyntiau ar ailddosrannu gan ideolegau economaidd, gwleidyddol, crefyddol, moesol, a chymdeithasol.
Enghraifft o'r canlynol | gwleidyddiaeth |
---|---|
Math | transfer |
Rhan o | Polisi economaidd |