Akbar Mawr
Ymerawdwr Ymerodraeth y Mughal yn India o 1556 hyd 1605 oedd Jalaluddin Muhammad Akbar (Wrdw: جلال الدین محمد اکبر, Jalāl ud-Dīn Moḥammad Akbar), a elwir yn Akbar Mawr (Akbar-e-Azam) (15 Hydref neu 23 Tachwedd 1542 – 12 Hydref 1605).[1] Ystyrir mai ef yw’r mwyaf o’r Ymerodron Mughal.
Akbar Mawr | |
---|---|
Ganwyd | 15 Hydref 1542 Umarkot Fort |
Bu farw | 25 Hydref 1605 o dysentri Fatehpur Sikri |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth y Mughal |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Ymerawdwr Mughal |
Tad | Humayun |
Mam | Hamida Banu Begum |
Priod | Mariam-uz-Zamani, Ruqaiya Sultan Begum, Salima Sultan Begum |
Plant | Jahangir I, Murad, Daniyal, Aram Banu Begum, Khanum Sultan Begum, Shakr-un-Nissa Begum |
Llinach | Mughal dynasty |
Ganed Akbar yn Umarkot yn Sind, lle roedd ei rieni wedi gorfod mynd am loches wedi i’w dad gael ei orchfygu gan Sher Shah. Llwyddodd ei dad, Humayun, i adfeddiannu Delhi yn 1555. Daeth Akbar yn ymerawdwr yn 1556 pan nad oedd ond tair ar ddeg oed, ar farwolaeth ei dad. Yn ystod ei deyrnasiad llwyddodd i sicrhau ffiniau’r ymerodraeth trwy orchfygu disgynyddion Sher Shah o Affganistan, a gorchfygu’r arweinydd Hindŵaidd Hemu yn Ail Frwydr Panipat. Ychwanegodd Malwa (1562), Gujarat (1572), Bengal (1574), Kabul (1581), Kashmir (1586), a Kandesh (1601) at yr ymerodraeth. Roedd Akbar yn nodedig am ei oddefgarwch crefyddol. Gwnaeth i ffwrdd a’r dreth jizya a godid ar ddeiliad nad oeddynt yn ganlynwyr Islam, a gwellodd y berthynas gyda’r Rajput, gan briodi nifer o dywysogesau Rajput. Penododd Hindwaid i swyddi uchel, ac roedd ganddo berthynas dda â'r Eglwys Gatholig.
Roedd gan Akbar nifer fawr o ddiddordebau; roedd yn bensaer, arlunydd, gôf, dyfeisiwr, awdur a diwinydd ymysg pethau eraill. Casglodd weithiau celf o wahanol rannau o’r byd, a gwnaeth gasgliadau o lenyddiaeth. Bu farw yn Agra a chladdwyd ef mewn mawsolewm yn Sikandra, gerllaw Agra. Dilynwyd ef gan ei fab, Jahangir.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Zulfiqar Ahmad (1982). Lahore & the Punjab (yn Saesneg). Sang-e-Meel Publications. t. 118.
Rhagflaenydd : Humayun |
Ymerodron Mughal Akbar Mawr 1556–1605 |
Olynydd : Jahangir |