Al Khor (dinas)
Dinas arfordirol yng ngogledd Catar yw Al Khor (Arabeg: الخور), wedi'i lleoli 50 cilomedr i'r gogledd o'r brifddinas, Doha . Mae hi'n cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf Catar a hi yw prifddinas bwrdeistref Al Khor. Ystyr enw'r ddinas mewn Arabeg yw 'cilfach' a chafodd yr enw hwn oherwydd bod safle gwreiddiol y ddinas ar gilfach. Mae Al Khor yn gartref i lawer o weithwyr y diwydiant olew oherwydd ei bod yn agos at feysydd olew a nwy naturiol gogleddol Catar a'r ddinas ddiwydiannol Ras Laffan . Mae'r ddinas yn un o'r lleoliadau ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 . [1]
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 31,547 |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Al Khor |
Gwlad | Qatar |
Uwch y môr | 10 metr |
Cyfesurynnau | 25.68389°N 51.50583°E |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Saraiva, Alexia (2 August 2018). "Get To Know The 8 2022 Qatar World Cup Stadiums". ArchDaily.