Doha
Prifddinas Qatar yw Doha (Arabeg: الدوحة). Mae ganddi boblogaeth o 400,051 yn ôl cyfrifiad 2005 ac fe'i lleolir ym mwrdeisdref Ad Dawhah ar lan Gwlff Persia. Doha yw dinas fwyaf Qatar, gyda thros 80% o boblogaeth y wlad yn byw yno neu yn ei maesdrefi. Mae'n ganolfan economaidd i'r wlad hefyd. Mae Doha hefyd yn gartref i Ddinas Addysg (Education City), ardal arbennig ar gyfer ymchwil ac addysg. Roedd dinas Doha hefyd wedi cynnal Gêmau Asiaidd 2006, sef y Gêmau Asiaidd fwyaf i gael ei chynnal erioed.
![]() | |
Math |
prifddinas, municipality of Qatar, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
1,312,947 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser |
UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Qatar ![]() |
Sir |
Ad Dawhah ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
132,000,000 m² ![]() |
Uwch y môr |
0 metr ![]() |
Gerllaw |
Gwlff Persia ![]() |
Cyfesurynnau |
25.3°N 51.53°E ![]() |
QA-DA ![]() | |
![]() | |
Mae Doha wedi datblygu i fod yn ddinas fodern gyda safon byw uchel. Lleolir pencadlys y rhwydwaith teledu rhyngwladol Al Jazeera yn y ddinas.
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Amgueddfa Genedlaethol Qatar
- Prifysgol Qatar
- Tŵr Aspire
- Ynys Pearl-Qatar