Qatar
Gwladwriaeth Arabaidd sofren yn y Dwyrain Canol yw Qatar (Arabeg: قطر ; ynganiad: [ˈqɑ̱.tˁɑ̱r]) neu'n swyddogol Gwladwriaeth Qatar (Arabeg: دولة قطر Dawlaṫ Qatar). Fe'i lleolir ar orynys ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Arabia ar lannau'r Gwlff yng Ngorllewin Asia. Mae'n ffinio â Sawdi Arabia i'r de (ei hunig ffin) ac mae ynys Bahrein yn gorwedd i'r gorllewin. Ei ffiniau eraill yw Gwlff Persia. Ceir gwlff sy'n ei gwahanu rhag gwladwriaeth Bahrein. Yn 2013 roedd poblogaeth Qatar yn 1.8 miliwn; 278,000 o ddinasyddion Qatari ac 1.5 miliwn o alltudion.[1] Yn y cyfrifiad diweddaraf roedd poblogaeth y wlad yn 2,639,211 (2017)[2].
![]() Doha, prifddinas Qatar. | |
![]() | |
Arwyddair | Ble daw breuddwydion yn fyw ![]() |
---|---|
Math | Emirate, gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
Prifddinas | Doha ![]() |
Poblogaeth | 2,639,211 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | As Salam al Amiri ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Mohammed bin Abdulrahman Al Thani ![]() |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Asia/Qatar ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De-orllewin Asia, Y Dwyrain Canol, Gulf States ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 11,437 ±1 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Sawdi Arabia, Iran ![]() |
Cyfesurynnau | 25.26954°N 51.21277°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Ymgynghorol Qatar ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Emir Gwladwriaeth Qatar ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Tamim bin Hamad Al Thani ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Qatar ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Mohammed bin Abdulrahman Al Thani ![]() |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $179,677 million, $237,296 million ![]() |
Arian | Qatari riyal ![]() |
Cyfartaledd plant | 2.026 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.855 ![]() |
Hanes Golygu
Yn yr 20g, ar ôl iddi gael ei rheoli gan Ymerodraeth yr Otomaniaid, fe'i rheolwyd gan Brydain nes iddi ddod yn annibynnol yn 1971. Chwaraeodd y teulu Al Thani le blaenllaw yn ei rheolaeth ers canol y 19g, ac mae Qatar heddiw dan reolaeth unbeniaethol ei theulu brenhinol; ei harlywydd yw Emir Tamim bin Hamad Al Thani.[3] Wedi Sawdi Arabia, Qatar yw'r gymdeithas mwyaf ceidwadol o aelodau'r مجلس التعاون لدول الخليج العربية (Cyngor Cydweithredol y Gwlff (neu'r GCC)).[4][5]
Crefydd Golygu
Mae'r rhan fwyaf o Qatariaid yn cadw'n agos iawn i ddehongliad Wahhabi o Islam.<[6][7][7][8][9][10] Cyfraith Sharia yw prif ffynhonnell eu cyfreithiau, yn unol â chyfreithiau eu gwlad.[8][9]
Heddiw Golygu
Qatar yw gwlad gyfoethoca'r byd, yn ôl y pen, gyda thwf uwch nag unrhyw wlad Arabaidd arall. Caiff hefyd ei chydanbod fel 'economi incwm uchel' gan Fanc y Byd.[11][12] Mae ganddi fwy o nwy wrth gefn nag unrhyw wlad arall ar y Ddaear; mae ei chronfa wrth gefn dros 25 biliwn casgen. Oherwydd hyn i gyd, mae dylanwad Qatar yn fawr iawn. Yn ystod y Gwanwyn Arabaidd, cefnogodd Qatar nifer o grwpiau gwrthryfelgar, yn ariannol a thrwy ei grŵp cyfryngol Al Jazeera.[13][14][15] Qatar fydd yn cynnal Cwpan y Byd FIFA yn 2022, y wlad Arabaidd gyntaf i wneud hynny.[16]
Gweler hefyd Golygu
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ "Population of Qatar". Cyrchwyd Rhagfyr 2013. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.
- ↑ "Qatar: regional backwater to global player". BBC News.
- ↑ "Qatar: Revolution From the Top Down". National Geographic. Cyrchwyd 7 Mawrth 2014.
- ↑ "For Qatari Women, Change Slow in Coming". ABC News. Cyrchwyd 7 Mawrth 2014.
- ↑ "Tiny Qatar's growing global clout". BBC.
- ↑ 7.0 7.1 "Qatar's modern future rubs up against conservative traditions". Reuters. 27 Medi 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2014-10-11.
- ↑ 8.0 8.1 "The Permanent Constitution of the State of Qatar". Government of Qatar.
- ↑ 9.0 9.1 "Constitution of Qatar".
According to Article 1: Qatar is an independent Arab country. Islam is its religion and Sharia law is the main source of its legislation.
- ↑ "Rising power Qatar stirs unease among some Mideast neighbors". Reuters. 12 February 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 13 June 2013.
- ↑ Beth Greenfield (18 Ebrill 2012). "World's Richest Countries". Forbes. Cyrchwyd 22 Ionawr 2013.
- ↑ "Indices & Data | Human Development Reports". United Nations Development Programme. 14 Mawrth 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 January 2013. Cyrchwyd 27 Mehefin 2013.
- ↑ Dagher, Sam (17 Hydref 2011). "Tiny Kingdom's Huge Role in Libya Draws Concern". Online.wsj.com. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Qatar: Rise of an Underdog". Politicsandpolicy.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-10. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.
- ↑ Ian Black in Tripoli. "Qatar admits sending hundreds of troops to support Libya rebels". Theguardian.com. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.
- ↑ Paul Rhys in Doha. "Blatter reaches out to Arabia". Aljazeera.com. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.