Alan Carr

actor a aned yn Weymouth yn 1976
Mae'r erthygl hon yn sôn am y digrifwr. Ar gyfer yr awdur llyfrau cymorth, gweler Allen Carr

Digrifwr a chyflwynwr teledu Seisnig yw Alan Carr (ganed 14 Mehefin 1976 yn Northampton), sy'n adnabyddus am ei ymddygiad camp a jôcs yn seliedig ar ensyniad.

Alan Carr
Ganwyd14 Mehefin 1976 Edit this on Wikidata
Weymouth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Middlesex
  • Weston Favell Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, digrifwr, actor ffilm, sgriptiwr, digrifwr stand-yp, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, actor teledu Edit this on Wikidata
TadGraham Carr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.alancarr.net Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Carr yn Weymouth, Dorset a tyfodd i fyny yn Northampton. Roedd ei dad Graham Carr yn rheolwr Clwb Pêl-droed Tref Northampton. Mae ganddo frawd. Mae Alan yn sengl ac yn byw ar ei ben ei hun.

Teledu golygu

Ar hyn o bryd mae Carr yn cyflwyno The Sunday Night Project, rhaglen mae'n cyflwyno ar y cyd gyda Justin Lee Collins a cyflwynydd gwâdd newydd bob wythnos.

Ymddangosa Carr yn rheolaidd ar sioeau gêm ar sioeau panel. Mae'r rhain yn cynnwys FAQ U, 8 Out of 10 Cats, cornel eiriadur Countdown's a Never Mind The Buzzcocks.

Ymddangosodd hefyd fel aelod o'r panel ar Big Fat Anniversary Quiz ar Sianel 4, rhaglen a ddathlodd penblwydd y sianel yn 25 oed. Mae hefyd wedi cael ei gyfweld ar amryw o sioeau gan gynnwys Friday Night with Jonathan Ross a Tubridy Tonight with Ryan Tubridy.

Yn 2008 cyflwynodd Carr ei sioe deledu ei hun, Alan Carr's Celebrity Ding Dong. Roedd y sioe yn cynnwys gwestai megis Davina McCall, Louis Walsh a Chris Moyles. Darlledwyd y rhaglen gyntaf ar Sianel 4 ar y 1af o Chwefror 2008. Dechreuodd yr ail gyfres ym mis Hydref 2008.

Cofiodd Carr yn ôl i'w fagwraeth yn Northampton pan gafodd ei gyfweld ar gyfer The Comedy Map of Britain ar BBC2.

Ymddangosodd hefyd yn rhaglen gyntaf o gyfres 11 Top Gear ar BBC2, ynghyd â Justin Lee Collins, yn y Reasonably Priced Car.

Honnir bod Car wedi derbyn cytundeb o £3m i gynnal sioe siarad ar Sianel 4.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.