Cyfres deledu'r BBC am gerbydau modur, ceir yn benodol, ydy Top Gear, a ddarlledwyd yn wreiddiol ar BBC Dau. Dechreuodd y gyfres ym 1977 fel rhaglen gylchgrawn gonfensiynol am foduro. Dros amser, ac yn enwedig ers i'r rhaglen gael ei hail-lansio yn 2002, mae ganddi arddull unigryw, ddoniol. Cyflwynid y fformat newydd gan Jeremy Clarkson, Richard Hammond a James May, ac mae hefyd yn cynnwys gyrrwr prawf a elwir "The Stig". Amcangyfrifir fod gan y rhaglen 350 miliwn o wylwyr yn fyd-eang. Yn aml, roedd yn torri tir newydd ac yn herio'r drefn 'wleidyddol gywir' arferol o chwaeth.[1] Caiff ei ffilmio ym Maesawyr Dunsfold, Waverley, Surrey. Hon oedd rhaglen geir mwyaf poblogaidd drwy'r byd.[2] Ers 2007 roedd nifer y gwylwyr oddeutu 6 - 7 miliwn.

Top Gear
Genre Moduro
Adloniant
Serennu Jeremy Clarkson
(2002 - 2015)
Jason Dawe
(2002)
Richard Hammond
(2002 - 2015)
James May
(2003 - 2015)
The Stig
(2002 - presennol)
Chris Evans
(2016)
Matt LeBlanc
(2016 - presennol)
Sabine Schmitz
(2016 - presennol)
Eddie Jordan
(2016 - presennol)
Chris Harris
(2016 - presennol)
Rory Reid
(2016 - presennol)
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 21
Nifer penodau 184 (gan gynnwys 11 rhaglen arbennig)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud ar gyfartaledd
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Two
Rhediad cyntaf yn 1977-2001
Darllediad gwreiddiol 2002 - Presennol
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Yn dilyn ffrae rhwng Clarkson ac un o gynhyrchwyr y sioe ym mis Mawrth 2015, ni estynnwyd contract Clarkson gyda'r BBC a phenderfynodd y tri phrif gyflwynydd adael i weithio i raglen newydd The Grand Tour ar gyfer Amazon. Darlledwyd y rhaglen gyntaf yng ngwledydd Prydain, yr UDA, yr Almaen a Japan ar 18 Tachwedd 2016.

Ym Mehefin 2015 cadarnhawyd mai Chris Evans fyddai'r prif gyflwynydd newydd ynghyd â Matt LeBlanc a sawl cyflwynydd ac adolygydd arall. Cafwyd ymgais i barhau gyda'r arddull a'r fformat a oedd yn ei le ond nid oedd yn apelio at y gynulleidfa, a syrthiodd y ffigyrau gwylio yn sylweddol. Wedi darlledu'r chwe phennod yng nghyfres 23, ar 4 Gorffennaf 2016, rhoddodd Chris Evans y ffidil yn y to fel cyflwynydd.

Car y Flwyddyn golygu

Ar ddiwedd pob tymor, cyflwynir Gwobr Car y Flwyddyn.

Blwyddyn Car
2002 Land Rover Range Rover
2003 Rolls-Royce Phantom
2004 Volkswagen Golf GTI
2005 Bugatti Veyron
2006 Lamborghini Gallardo Spyder
2007 Subaru Legacy Outback/Ford Mondeo

(cyfartal)

2008 Caterham Seven R500
2009 Lamborghini Gallardo LP550-2 Valentino Balboni
2010 Citroën DS3
2011 Range Rover Evoque
2012 Toyota GT86
2013 Ford Fiesta ST
2014 BMW i8

Cyfeiriadau golygu

  1. "Top Gear India special criticised for 'toilet humour'". Bbc.co.uk. 12 Ionawr 2012. Cyrchwyd 11 Mawrth 2013.
  2. "Sir Bruce Forsyth becomes record breaker". BBC News Online. 7 Medi 2012. Cyrchwyd 7 Medi 2012. motoring show Top Gear, is also recognised in the 2013 volume. The BBC Two fixture holds the record for the world's most widely-watched factual TV programme, having now been broadcast in 212 territories.