Mae'r erthygl hon yn sôn am yr awdur llyfrau cymorth. Ar gyfer y digrifwr, gweler Alan Carr

Allen Carr
GanwydAllen John Carr Edit this on Wikidata
2 Medi 1934 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 2006 Edit this on Wikidata
Benalmádena Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethawdur ysgrifau, ysgrifennwr, organizational worker, auditor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Easy Way to Stop Smoking Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.allencarr.com/ Edit this on Wikidata

Awdur Seisnig oedd Allen Carr (2 Medi 193429 Tachwedd 2006), a ddaeth yn enwog fel awdur llyfr cymorth stopio ysmygu (wedi iddo roi'r gorau i ysmygu ar ôl 31 mlynedd o ysmygu pump-pecyn-y-dydd) a, fel mae'n pwysleisio'n ei lyfrau, dianc o fod yn gaeth i nicotîn.

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Allen Carr yn Llundain a dechreuodd ysmygu pan yn 18 oed tra'n gwneud Gwasanaeth Milwrol. Enillodd gymhwyster fel cyfrifydd ym 1958. Rhoddodd Carr y gorau i ysmygu ym 1983, yn 48 oed, ar ôl iddo ymweld â hypnotherapydd. Serch hynny, nid yr hypnotherapi ei hun a berodd iddo beidio ysmygu. Amlygodd y sesiwn hypnotherapi iddo pa mor hawdd ydyw i beidio ysmygu ac o ganlyniad roedd ganddo awydd aruthrol i esbonio'i ffordd ef o roi'r gorau i ysmygu i gynifer o ysmygwyr a phosib.

Athroniaeth golygu

Yn groes i'r gred gyffredin, dysgodd Carr nad yw ysmygwyr yn derbyn hwb o ysmygu sigaret; yr unig beth mae ysmygu yn llwyddo i wneud yw lleddfu'r diffyg nicotîn ers y sigaret blaenorol, sydd yn ei dro yn achosi mwy o awydd am nicotîn. Yn y modd hwn, mae'r caethiwed i'r cyffur nicotîn yn bytholi ei hun. Credai Carr ynghyd â nifer o bobl eraill yn byd meddygol mai dyma'r mecanwaith a welir ymhob achos o fod yn gaeth i gyffur. Dywedodd Carr mai'r "rhyddhad" a deimla'r ysmygwr wrth gynnau sigaret, y teimlad o "ddychwelyd yn ôl i normal", yw'r un teimlad sydd gan di-ysmygwyr drwy'r amser. Felly, dywed Carr fod ysmygwyr, wrth gynnau sigaret yn ceisio cyrraedd cyflwr sydd gan bobl sydd ddim yn ysmygu trwy eu bywydau.

Yn ystod sesiynau rhoi'r gorau i ysmygu yng Nghlinigau Allen Carr, caniateir i ysmygwyr barhau i ysmygu tra bod eu amheuon a'u hofnau yn cael eu gwaredu, gyda'r nod o annog a datblygu meddylfryd rhywun sydd ddim yn ysmygu, cyn i'r sigaret olaf gael ei diffodd. Rheswm arall dros ganiatâu i ysmygwyr ysmygu tra'u bod yn cael eu cynghori, oedd bod Carr o'r farn ei bod yn anoddach perswadio'r ysmygwr i roi'r gorau i ysmygu os nad oeddent yn deallt mecanwaith "y trap nicotîn". Roedd hyn oherwydd nad oedd yr ysmygwr yn medru canolbwyntio'n llawn tra'u bod yn parhau i gredu bod rhoi'r gorau i ysmygu yn ofnadwy o anodd, a'u bod yn ddibynol ar nicotîn.

Mae system Carr yn unigryw gan ei fod yn honni nad oes angen hunan-ddisgyblaeth er mwyn rhoi'r gorau i ysmygu. Dywedodd hyn gan nad oes angen hunan-ddisgyblaeth i beidio gwneud rhywbeth nad ydych eisiau gwneud, sef yr hyn mae ysmygwyr yn sylweddoli cyn gynted ag y mae'r amheuon a'r ofnau am stopio ysmygu wedi mynd. Mae hyn, ynghyd a'r dealltwriaeth fod yr elfen gorfforol o fynd heb nicotîn mor fychan a di-bwys, mae'n galluogi'r ysmygwr i dorri'n rhydd o "drap nicotîn". Nid yw ysmygwyr sy'n stopio ysmygu trwy ddefnyddio hunan-ddisgyblaeth yn sylweddoli hyn ac o ganlyniad mae teimladau o ofn a phryder yn amlygu'u hun, gan achosi symptomau corfforol, er enghraifft cledrau chwyslyd, teimladau o banig a thymer ddrwg. Nid yw nifer o bobl yn llwyddo i roi'r gorau i ysmygu gan eu bod yn credu fod y symptomau hyn yn cael eu hachosi gan ddiffyg nicotîn, ac nid oherwydd eu dibyniaeth seicolegol a'r teimlad eu bod yn colli allan ar rywbeth.

Ei ddadl ef oedd mai'r ofn o roi'r gorau i ysmygu sy'n achosi i'r mwyafrif o bobl i barhau i ysmygu, ac o ganlyniad maent yn hybu'r gred eu bod yn mwynhau ysmygu fel mwynhad gwirioneddol, fel rhyw fath o gyfiawnhad moesol dros wneud rhywbeth abswrd o ystyried yr holl dystiolaeth meddygol a gwyddonol am beryglon ysmygu.

Roedd Carr yn benodol ac yn ddadansoddol iawn hefyd yn ei ddefnydd o iaith. Anaml y byddai'n dweud "roi'r gorau" i ysmygu, yn hytrach ddefnyddiodd y term "stopio ysmygu", gan fod yr idiom "rhoi'r gorau" yn awgrymu bod yr ysmygwr yn gorfod colli allan ar wneud rhywbeth a oedd yn werth ei wneud, yn hytrach na rhyddhau eu hunain. Dadansoddiadau fel hyn oedd ei weledigaeth ef ar sut i ddianc o'r "trap nicotîn".

Dolenni allanol golygu