Albanwyr

cenedl cynhenid yr Alban
(Ailgyfeiriad o Albanwr)

Pobl o'r Alban neu sydd o dras Albanaidd yw'r Albanwyr neu'r Sgotiaid.

Albanwyr
Cyfanswm poblogaeth
30–40 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Yr Alban: 4 459 071Yr Unol Daleithiau: 5 752 571Canada: 4 157 210Lloegr: 795 000Awstralia: 540 046
Ieithoedd
Gaeleg yr Alban, Sgoteg, Saesneg
Crefydd
Cristnogaeth, arall, dim
Grwpiau ethnig perthynol
Gwyddelod, Manawyr, Saeson, Cernywiaid, Cymry, Llydawyr, Islandwyr, Ffarowyr
Mae'r erthygl hon am bobl yr Alban. Am bobl Albania, gweler Albaniaid.

Y Sgotiaid gwreiddiol

golygu

Yn wreiddiol cyfyngid y defnydd o'r enw Sgotiaid i'r Gwyddelod a ddaeth drosodd o Iwerddon i ymgartrefu yng nghanolbarth a gorllewin yr Alban. Y Scotti oedd eu henw a siaradent Wyddeleg. Eu cymdogion oedd y Brythoniaid i'r de a'r Pictiaid i'r gogledd a'r dwyrain. Dim ond tua'r flwyddyn 850 y cawsant eu huno'n un deyrnas gan y brenin Kenneth mac Alpin. Rywbryd ar ôl hynny y dechreuodd yr arfer o alw pobl y wlad yn Albanwyr neu 'Scots'.