Albania
Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Albania neu Albania. Y gwledydd cyfagos yw Montenegro yn y gogledd, Serbia yn y gogledd-ddwyrain, Gogledd Macedonia yn y dwyrain a Gwlad Groeg yn y de. Mae ar lân Môr Adria a Môr Ionia. Ei phrif borthladd yw Dürres. Adwaenir pobl Albania fel Albaniaid - nid i'w cymysgu ag Albanwyr, pobl yr Alban.
![]() | |
Republika e Shqipërisë | |
Arwyddair | Go your own way! ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
Prifddinas | Tirana ![]() |
Poblogaeth | 2,793,592 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Himni i Flamurit ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Edi Rama ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Albaneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Ddwyrain Ewrop ![]() |
Arwynebedd | 28,748 km² ![]() |
Gerllaw | Môr Adria, Y Môr Canoldir ![]() |
Yn ffinio gyda | Gwlad Groeg, Gogledd Macedonia, Serbia, Montenegro, yr Undeb Ewropeaidd, Cosofo ![]() |
Cyfesurynnau | 41°N 20°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Albania ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Albania ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Bajram Begaj ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Albania ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Edi Rama ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $17,931 million, $18,882 million ![]() |
Arian | Lek ![]() |
Canran y diwaith | 16 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant | 1.784 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.796 ![]() |
Daearyddiaeth Golygu
- Prif: Daearyddiaeth Albania
Mae Albania yn un o wledydd y Balcanau. Mae hi'n wlad fynyddig iawn a elwir weithiau "Gwlad yr Eryr". Cyfyd y mynyddoedd i uchder o hyd at 2700m (9000 troedfedd). Ceir coedwigoedd sylweddol. Mae'r tir arfordirol yn ffrwythlon iawn.
Mae'r prif ddinasoedd a threfi yn cynnwys Tiranë (y brifddinas), Durrës (y prif borthladd), Shkodër, Shëngjin, Elbasan, Vlorë a Sarandë.
Hanes Golygu
- Prif: Hanes Albania
Sefydlwyd Durrës gan y Groegiaid mor bell yn ôl â'r 7fed ganrif CC.
Rhwng diwedd y 15fed a dechrau'r 20g bu Albania'n rhan o'r Ymerodraeth Ottoman.
Yn 1912 enillodd Albania ei hannibyniaeth ar yr Ottomoniaid. Yn 1925, yn sgîl rhyfel cartref y cymerodd yr Eidal ran ynddo, aeth y wlad yn weriniaeth. Fodd bynnag troes yn fonarchiaeth unwaith yn rhagor yn 1928 pan gafodd ei harlywydd Ahmed Beg Zogu ei wneud yn frenin ar y wlad dan yr enw cofiadwy Brenin Zog. Cafodd y wlad ei meddiannu gan luoedd arfog yr Eidal a'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd troes Albania'n wlad gomiwnyddol yn 1946 dan arweinyddiaeth yr unben Enver Hoxha. Ar ôl cyfnod o fod yn gynghrair triw i Stalin, troes Albania i'r Tsieina Faoaidd o 1961 ymlaen.
Pobl a diwylliant Golygu
- Prif: Diwylliant Albania
- Prif: Demograffeg Albania
Mae'r mwyafrif o'r Albaniaid yn perthyn i ddau grŵp ethnig, sef y Ghegiaid (i'r gogledd o Afon Shkumbi) a'r Tosgiaid (i'r de o'r afon honno); ychydig sy'n hysbys am eu gwreiddiau. Albaneg yw'r unig iaith swyddogol. Fel yn achos Cosofo dros y ffin, mae'r mwyafrif o'r dinesyddion yn Fwslemiaid.
Economi Golygu
- Prif: Economi Albania
Mewn canlyniad i bolisi ynysigaeth llywodraeth y wlad yn y gorffennol, pan ddibynai Albania i raddau helaeth ar fasnach gyda Tsieina a Gogledd Corea, roedd economi'r wlad yn dlawd iawn mewn cymhariaeth â gweddill Ewrop. Erys Albania yn un o wledydd tlotaf Ewrop heddiw, er bod pethau wedi gwella'n sylweddol gyda chymorth gan Undeb Ewrop.
Enwogion Golygu
- Y Fam Teresa (1910-1997), lleian Gatholig a chenhades
Prif ddinasoedd a threfi Albania yn ôl poblogaeth Golygu
- Tiranë - 352,900
- Durrës - 113,800
- Elbasan - 96,800
- Shkodër - 85,800
- Vlorë - 84,400
- Korçë - 58,800
- Fier - 55,100
- Borshi - 9,500
- Kavajë - 40,000
- Lushnjë - 38,200
- Kavaja: 28.200
- Pogradeci: 23.700
- Laçi: 23.400
- Gjirokastra: 22.800
- Patosi: 21.000
- Kruja: 19.400
- Kuçova: 18.000
- Kukësi: 16.600
- Lezha: 16.600
- Saranda: 14.500
- Peshkopia: 14.100
- Burreli: 13.900
- Cërrik: 13.200
- Çorovoda: 13.200
- Shijak: 12.800
- Librazhdi: 11.500
- Tepelenë: 11.300
- Gramsh: 10.400
- Poliçan: 10.200
- Bulqizë: 10.000
- Përmet: 9.800
- Fushë-Krujë: 9.600
- Kamzë: 9.300
- Rrëshen: 9.200
- Ballsh: 9.100
- Mamurras: 7.600
- Bajram Curri: 7.500
- Ersekë: 7.500
- Peqin: 7.200
- Divjak: 7.069
- Selenicë: 6.900
Dolenni allanol Golygu
Amryw Golygu
- Lleoliad Albania ar glob 3D (Java) Archifwyd 2006-10-08 yn y Peiriant Wayback.
- Baneri hanesyddol Albania Archifwyd 2006-10-01 yn y Peiriant Wayback.
- Albania a'r Balkan: fforwm trafod
- Ffeithlyfr Byd y CIA — Albania Archifwyd 2018-12-24 yn y Peiriant Wayback.
- Gwybodaeth gyffredinol am bobl Albania Archifwyd 2006-12-06 yn y Peiriant Wayback.
- Dolenni swyddogol
- Llawlyfr teithio am Albania
- Map o Albania
- Hanes Albania
- Ffeithiau am wleidyddiaeth Albania a'i hetholiadau Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback.