Albert Ayler

Cyfansoddwr jazz Americanaidd

Sacsoffonydd, canwr a chyfansoddwr jazz avant-garde o'r Unol Daleithiau oedd Albert Ayler (13 Gorffennaf 1936 – 25 Tachwedd 1970).[1]

Albert Ayler
Ganwyd13 Gorffennaf 1936 Edit this on Wikidata
Cleveland Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 1970, 5 Tachwedd 1970 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Label recordioESP-Disk Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • John Adams High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr sacsoffon, cyfansoddwr, cerddor jazz, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddulljazz Edit this on Wikidata

Ar ôl profiad cynnar yn chwarae R&B a Bebop, dechreuodd Ayler recordio cerddoriaeth yn ystod cyfnod Jazz Rhydd y 1960au. Mae'n anodd categoreiddio arddull Ayler mewn unrhyw ffordd, ac fe wnaeth ennyn ymatebion anhygoel o gryf a gwahanol gan feirniaid a chefnogwyr fel ei gilydd. Mae ei arloesiadau wedi ysbrydoli cerddorion Jazz hyd heddiw. Mae rhai beirniaid yn dadlau, er bod chwarae Ayler yn gwbl wreiddiol ac anarferol doedd ei steil ddim hyd yn oed yn dilyn arddull Jazz Rhydd.[2]

Mae ei recordiau triawd a phedwarawd ym 1964, fel Spiritual Unity a The Hilversum Session, yn dangos iddo ddatblygu syniadau improf enwau mawrion Jazz Rhydd John Coltrane ac Ornette Coleman i faesydd haniaethol. Mae ei gerddoriaeth ecstatig o 1965 a 1966, fel Spirits Rejoice a Truth Is Marching In, wedi'i chymharu gan feirniaid â sain band pres gorymdeithio cyfnod jazz cynnar, gan gynnwys themâu syml ond gydag improf gwyllt ac yn cael eu hystyried yn adfer gwreiddiau cyn dyddiau cynnar Jazz cyn iddo iddo gael ei boblogeiddio gan enwau mawr fel Louis Armstrong yn 1930au. [3]

Doedd Ayler byth am fodloni’r cyhoedd neu dyfu cynulleidfa gyson. Er gwaethaf derbyniad beirniadol positif, arhosodd yn dlawd trwy gydol ei oes ac yn aml roedd yn ceisio cefnogaeth ariannol gan ei deulu a'i gyd-gerddorion, gan gynnwys Coltrane. Perfformiodd yn angladd Coltrane yn 1967.

Tua diwedd ei fywyd roedd Ayler yn mynd yn ansefydlog yn emosiynol, gan feio ei hun am broblemau iselder ei frawd. Ym 1969, cyflwynodd lythyr agored angerddol, dryslyd i'r cylchgrawn Criced o'r enw "To Mr. Jones - I Had a Vision ," lle disgrifiodd weledigaethau ysbrydol apocalyptaidd syfrdanol. Erfyniodd ar y darllenwyr i rannu neges ei datguddiadau, gan fynnu "Mae hyn yn bwysig iawn. Mae'r amser wedi dod". Cofiodd Noah Howard weld Ayler yr haf hwnnw, yn gwisgo menig a chôt ffwr hyd llawn er gwaethaf y gwres, ei wyneb wedi'i orchuddio yn Vaseline, a dweud "Rhaid imi amddiffyn fy hun."

Diflannodd Ayler ar 5 Tachwedd 1970, a darganfuwyd yn farw yn Afon West River Dinas Efrog Newydd ar 25 Tachwedd 1970, hunanladdiad tybiedig. Am beth amser wedyn, roedd sibrydion yn cylchredeg bod Ayler wedi cael ei lofruddio, gyda chwedl ar led bod y Maffia wedi ei glymu i jukebox.[4]

Yn 2005 ymddangosodd y ffilm ddogfen My Name Is Albert Ayler sy’n cynnwys cyfweliadau a pherfformiadau byw.

Discograffi

golygu
Rhyddhau[5] Recordwyd[6] Albwm Label
1963 1962 Something Different!!!!!! (The First Recordings Vols. 1 & 2) Bird Notes
1964 1963 My Name Is Albert Ayler Debut
1964 1964 Spirits (re-released as Witches & Devils) Debut
1971 1964 Swing Low Sweet Spiritual Osmosis
1975 1964 Prophecy [Live] ESP-Disk
1996 1964 Albert Smiles With Sunny [Live] Inrespect
1965 1964 Spiritual Unity ESP
1966 1964 New York Eye and Ear Control ESP
2002 1964 The Copenhagen Tapes Ayler
1965 1964 Ghosts (ail rhyddhau fel Vibrations) Debut
1980 1964 The Hilversum Session Osmosis
1965 1965 Bells [Live] ESP
1965 1965 Spirits Rejoice ESP
1965 1965 Sonny's Time Now Jihad
1965 1965 The New Wave in Jazz [Live] Impulse!
2022 1966 La Cave Live, Cleveland 1966 Revisited ezz-thetics
1982 1966 At Slug's Saloon, Vol. 1 & 2 [Live] ESP
1990 1964–66 Albert Ayler [Live] Philology
2011 1966 Stockholm, Berlin 1966 [Live] hat MUSICS
1982 1966 Lörrach / Paris 1966 [Live] hat MUSICS
1967 1965–67 In Greenwich Village [Live] Impulse!
1998 1965-1967 Live in Greenwich Village: The Complete Impulse Albums (IMPD-2-273) Impulse!
1968 1967–68 Love Cry Impulse!
1969 1968 New Grass Impulse!
1970 1969 Music Is the Healing Force of the Universe Impulse!
1971 1969 The Last Album Impulse!
2005 1970 Live on the Riviera [Live] ESP
1971 1970 Nuits de la Fondation Maeght Vol. 1 [Live] Shandar
1971 1970 Nuits de la Fondation Maeght Vol. 2 [Live] Shandar
2022 1970 Revelations: The Complete ORTF 1970 Fondation Maeght Recordings Elemental Music
2004 1960–70 Holy Ghost: Rare & Unissued Recordings (1962–70) Revenant

Cyfeiriadau

golygu
  1. Richard Cook, Richard Cook's Jazz Encyclopedia (Llundain: Penguin Books, 2005), tt.25–26
  2. Howard Mandel,"Albert Ayler's Fiery Sax, Now on Film", NPR Music, 7 Mehefin 2008; adalwyd 29 Hydref 2024
  3. Val Wilmer, As Serious as Your Life (Quartet, 1977), tt.95–96
  4. Biography, Ayler.co.uk; adalwyd 29 Hydref 2024
  5. "Albert Ayler discography". RateYourMusic.com. Cyrchwyd 2020-07-01.
  6. Discography, Ayler.co.uk; adalwyd 29 Hydref 2024