Cymuned yn départements Savoie, rhanbarth Rhône-Alpes, Ffrainc yw Albertville (Arpitan : Arbèrtvile). Mae'n fwyaf adnabyddus am gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 1992.

Albertville
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCarlo Alberto I o Sardinia Edit this on Wikidata
LL-Q150 (fra)-Visiteur Journée 2 - 14 (Madehub)-Albertville.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth19,812 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1836 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAosta, Winnenden Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirarrondissement of Albertville, Savoie Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd17.54 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr340 ±1 metr, 328 metr, 2,030 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Isère Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEsserts-Blay, Gilly-sur-Isère, Grignon, Mercury, Pallud, Queige, Tours-en-Savoie, Venthon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.6758°N 6.3925°E Edit this on Wikidata
Cod post73200 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Albertville Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth

golygu

Lleolir Albertville ar yr afon Arly, yn agos i lle mae'n ymuno gyda Afon Isère. Mae wedi ei leoli ar lethr rhwng 345 a 2037 medr uwch lefel y môr. Mae mynyddoedd gerllaw yn cynnwys y Belle Etoile, Dent de Cons, Négresse, Roche Pourrie, Mirantin, Pointe de la Grande Journée, a'r chaîne du Grand Arc. Heb fod ymhell hefyd mae'r Bauges; y Beaufortain; a chychwyn y Vanoise.

Sefydlwyd Albertville ym 1836 gan frenin Sardiniaidd Charles Albert. Mae hefyd yn cynnwys tref ganoloesol Conflans, sydd âg adeiladau'n dyddio'n ôl o'r 14g. Ers hynny, mae Albertville wedi datblygu masnach gyda Ffrainc, yr Eidal, a'r Swistir; ac ar lan yr afon ceir diwydiannau megis melinau papur a hydro drydan.

Cafodd Gemau Olympaidd y Gaeaf 1992 eu trefnu yn rhanbarth Savoie, gyda Albertville yn eu gwesteio. Cafodd rhai o'r adeiladau lle gynhaliwyd y chwaraeon eu addasu yn ddiweddarach ar gyfer defnyddiau eraill. Mae rhai o'r stadia yn dal i fod, megis y llawr sglefrio a ddyluniwyd gan y pensaer Jacques Kalisz, mae'r dref yn troi o amgylch diwydiant yn fwy na thwristiaeth.

Yn 2003, rhoddwyd i'r dref y label "Tref celf a hanes".

 
Albertville
 
Tref canoloesol Conflans

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu