Rhanbarthau Ffrainc

Rhennir Ffrainc yn 18 région (rhanbarth), sy'n cynnwys 13 région yn y Ffrainc ddinesig a 5 rhanbarth tramor. Mae un o'r rhanbarthau dinesig, Corsica (Corse), yn cael ei ddiffinio fel 'cymuned diriogaethol'. Y rhanbarthau yw'r lefel uchaf yn israniadau tiriogaethol a gweinyddol Gweriniaeth Ffrainc; rhennir y rhanbarthau hyn yn eu tro yn départements.

Rhanbarthau Ffrainc
Enghraifft o'r canlynolmath o adran weinyddol Ffrainc, ffurf gyfreithiol Edit this on Wikidata
Mathawdurdod lleol yn Ffrainc, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, adran tiriogaethol Ffrainc, etholaeth, rhanbarth gweinyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Mehefin 1960 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeth y 18 rhanbarth i fodolaeth ar 1 Ionawr 2016; cyn hynny roedd 27 rhanbarth. Bathwyd y term région yn swyddogol yn Neddf Datganoli 2 Mawrth 1982.

Mae rhanbarthau Ffrainc yn ardaloedd daearyddol diffiniedig yn ogystal, i gryn raddau, a gysylltir â hunaniaeth ddiwyllianol a hanesyddol sy'n aml yn rhagddyddio Ffrainc ei hun fel uned wleidyddol.


Swyddogaeth

golygu

Gan fod Ffrainc yn wladwriaeth ganolog, nid oes gan y rhanbarthau rym i greu deddfau na chodi trethi. Ond maent yn derbyn cyfran o'r arian a gofir gan drethi cenedlaethol gan y llywodraeth ganolog ac felly mae ganddynt gyllid sylweddol ac mae ganddynt ryddid i'w gwario yn ôl yr angen.

O bryd i'w gilydd, mae dadl yn codi dros gael mwy o ymreolaeth ar lefel ranbarthol, ond mae hyn yn arwain at anghytundeb yn aml. Mae rhai pobl wedi galw yn ogystal am gael gwared â'r cynghorau yn y départements a rhoi ei grym a'u swyddogaeth i'r rhanbarthau, gan gadw'r départements fel israniadau gweinyddol yn unig, ond hyd yn hyn nid oes symudiad i'r cyfeiriad hwnnw.

Diwygio ac uno'r rhanbarthau

golygu

Yn 2014, pasiodd Senedd Ffrainc (y Cynulliad Cenedlaethol a'r Senedd) cyfraith i leihau nifer y rhanbarthau ar dir mawr Ffrainc a Chorsica o 22 i 13. Daeth y rhanbarthau newydd i rym ar 1 Ionawr 2016.

Rhoddwyd enwau dros dro ar gyfer y rhan fwyaf o ranbarthau newydd drwy gyfuno enwau'r hen ranbarthau, e.e. enw dros dro'r rhanbarth newydd sy'n cynnwys Aquitaine, Poitou Charentes a Limousin yw Aquitaine-Limousin-Poitou Charentes. Bydd enwau parhaol yn cael eu cynnig gan y cynghorau rhanbarthol newydd a'u gadarnhau gan y Conseil d'etat erbyn 1 Gorffennaf 2016. Bydd yr enwau newydd yn cael eu cadarnhau gan y Conseil d'etat erbyn mis Hydref 2016. Mae dau ranbarth, Auvergne-Rhône-Alpes a Bourgogne-Franche-Comté, wedi dewis cadw eu henwau interim.

Rhanbarthau newydd

golygu

Rhanbarthau unedig newydd:

 
Map o'r rhanbarthau newydd
Cyn rhanbarthau Rhanbarth newydd (enw dros dro) Enw newydd (i'w cadarnhau)
Burgundy Bourgogne-Franche-Comté Bourgogne-Franche-Comté
Franche-Comté
Aquitaine Aquitaine-Limousin-Poitou-Charentes Aquitaine Newydd
Limousin
Poitou-Charentes
Basse-Normandie Normandie Normandie
Haute-Normandie
Alsace Alsace-Champagne-Ardenne-Lorraine Grand Est
Champagne-Ardenne
Lorraine
Languedoc-Roussillon Languedoc-Roussillon-Midi-Pyrénées Ocsitania
Midi-Pyrénées
Nord-Pas-de-Calais Nord-Pas-de-Calais-Picardie Hauts-de-France
Picardie
Auvergne Auvergne-Rhône-Alpes Auvergne-Rhône-Alpes
Rhône-Alpes

Rhanbarthau sy'n aros yr un fath:

Bretagne
Centre-Val de Loire
Corsica
Île-de-France
Pays de la Loire
Provence-Alpes-Côte d'Azur

Rhestr o'r hen ranbarthau

golygu
  • 22 région y Ffrainc ddinesig (métropolitaine) :

1. Alsace
2. Aquitaine
3. Auvergne
4. Basse-Normandie
5. Bourgogne
6. Bretagne
7. Centre
8. Champagne-Ardenne
9. Corsica

10. Franche-Comté
11. Haute-Normandie

12. Île-de-France
13. Languedoc-Roussillon
14. Limousin
15. Lorraine
16. Midi-Pyrénées
17. Nord-Pas-de-Calais
18. Pays de la Loire
19. Picardie
20. Poitou-Charentes
21. Provence-Alpes-Côte d'Azur
22. Rhône-Alpes

 
Sylwer fod gan Corsica statws gyfansoddiadol o fewn Ffrainc fel cymuned diriogaethol (collectivité territoriale) sy'n wahanol i'r 21 rhanbarth arall.
Map o ranbarthau tramor Ffrainc, pob un ohonynt hefyd yn département tramor