Semnān
Dinas yn Iran yw Semnān (Iraneg: : سمنان ), sy'n brifddinas talaith Semnān a sir Semnān. Fe'i lleolir yng nghanolbarth gogledd y wlad. Poblogaeth: 119,778 (amcangyfrifiad, 2005).
Math | dinas Iran, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 185,129 |
Cylchfa amser | UTC+03:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Central District |
Gwlad | Iran |
Uwch y môr | 1,148 metr |
Cyfesurynnau | 35.58°N 53.38°E |
Gorwedd y ddinas 1,138 metr i fyny wrth odrau deheuol mynyddoedd yr Alborz. Mae'n farchnad ranbarthol ar gyfer cotwm a chynnyrch grawnfwyd. Cynhyrchu tecstilau a charpedi yw'r diwydiannau traddodadiadol ond erbyn heddiw mae cynhyrchu ceir a beiciau yn bwysig hefyd.
Gorweddai Semnan ar un o brif lwybrau Llwybr y Sidan a gysylltai marchnadoedd Ewrop a'r Dwyrain Canol gyda Tsieina. O fewn Iran ei hun mae'n arosfa o bwys ers canrifoedd rhwng Tehran (220 kilometer) a Mashad (685 kilometer), a gysylltir â'r ddinas gan ffyrdd a rheilffordd erbyn hyn.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Semnān Archifwyd 2021-01-30 yn y Peiriant Wayback