Alcen
Teulu o hydrocarbonau yw alcenau. Maent yn cynnwys yr elfennau carbon a hydrogen wedi'u cysylltu â bondiau sengl a bond dwbl rhwng y carbonau. CnH2n yw'r fformiwla cyffredinol. Ethen (C2H4), propen (C3H6) a bwten (C4H8) yw aelodau cyntaf y gyfres.