Alex Yee
Mae Alexander Amos Yee MBE (ganwyd 18 Chwefror 1998) yn driathletwr proffesiynol o Loegr. Enillodd y fedal aur yn Nhriathlon y Dynion yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024. Enillodd y fedal arian yn yr un digwyddiad a'r fedal aur yn y Ras Gyfnewid Gymysg Triathlon yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020. Mae hefyd yn bencampwr triathlon Gemau'r Gymanwlad 2022 yn nigwyddiadau'r dynion a'r timau cymysg.
Alex Yee | |
---|---|
Ganwyd | 18 Chwefror 1998 Lewisham |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | triathlete, rhedwr pellter canol |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Cafodd Yee ei eni yn Lewisham, Llundain, i dad Tsieineaidd[1], Ron Yee,[2] a mam o Loegr, Emma Amos Yee. [3][4] Astudiodd yn Ysgol Sylfaen Kingsdale yn West Dulwich. Aeth ymlaen i astudio am BSc ym Mhrifysgol Leeds Beckett.[5] [6]
Yn y triathlon yng Ngemau Olympaidd 2024 roedd yn yr ail safle ar ddechrau'r trydydd cymal, ond goddiweddodd yr arweinydd i ennill y fedal aur.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "East x Southeast — an Alex Yee story". Maurten (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-31.
- ↑ "The making of... Alex Yee | Team GB". www.teamgb.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2024.
- ↑ Triathlon, World (18 Hydref 2022). "Down the blue carpet: Episode One with Alex Yee". World Triathlon (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Alex Yee celebrated for Olympic success". Lewisham Council (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-31.
- ↑ "Alex Yee Award News; Kingsdale Foundation School". kingsdalefoundationschool.org.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-25. Cyrchwyd 2024-07-31.
- ↑ "Leeds Beckett Student claims silver medal in World Triathlon Series debut; Leeds Beckett University". www.leedsbeckett.ac.uk (yn Saesneg).
- ↑ "Alex Yee wins gold in men's triathlon with stunning late victory". Sky News (yn Saesneg). 31 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 7 Awst 2024.