Alexandria Eschate
Sefydlwyd Alexandria Eschate (Groeg: 'Alexandria Bellaf') gan Alexander Fawr yn 329 CC fel ei wersyll fwyaf pellennig yng Nghanolbarth Asia. Fe'i sefydlwyd ganddo yn Nyffryn Fergana, ar lan ddeheuol afon Jaxartes (Syr Darya heddiw), ar safle dinas bresennol Khujand (neu Khodzhent; Leninabad yn y cyfnod Sofietaidd), yn Nhajicistan.
Math | dinas hynafol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Alecsander Fawr |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tajicistan |
Gwlad | Tajicistan |
Cyfesurynnau | 40.2861°N 69.6172°E |
- Gweler hefyd Alexandria (gwahaniaethu).
Cododd Alexander wal fric 6 km o gwmpas y ddinas, ac yno gadawodd grŵp o hen filwyr a chlwyfedigion yn wladfa Roeg ar gyrion eithaf Ymerodraeth Persia.
Y wladfa
golyguRoedd Alexandria Eschate wedi'i lleoli tua 300 km i'r gogledd o Alexandria ar Oxus yn Bactria, a chan ei bod ar diriogaeth Sogdiana, gwelwyd sawl brwydr ac ysgarmes â'r brodorion. Ar ôl y flwyddyn 250 CC, arosodd y ddinas mewn cysylltiad â theyrnas Roegaidd Bactria, yn ôl pob tebyg, yn arbennig ar ôl i'r brenin Groeg-Factraidd Euthydemus I ymestyn ei awdurdod i gynnwys Sogdiana.
Cysylltiadau â Tsieina
golyguGorweddai'r ddinas tua 400 km i'r gorllewin o Fasn Tarim, yn rhanbarth Xinjiang heddiw, yn Tsieina, lle roedd y Yuezhi, pobl Indo-Ewropeaidd, yn byw. Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu fod y Groegiaid ym Mactria wedi mentro cyn belled â Kashgar yn Xinjiang. Yn ôl yr hanesydd Groeg Strabo, "ymestynodd y Groegiaid eu hymerodraeth mor bell â Seres a gwlad Phryni" (Strabo XI.II.I), menter a roes fod i'r cysylltiadau uniongyrchol cyntaf a wyddys rhwng Tsieina a'r Gorllewin, tua 200 CC.
Cyfeiria cofnodion hanesyddol Tsieina o gyfnod brenhinllin yr Han at bobl y Dayuan (Dai Yuan: "Ioniaid Mawr"), o tua 130 CC ymlaen, ac mae'n bosibl mai Groegiaid ardal Ferghana a olygir. Os gwir hynny, bu i ddisgynyddion y Groegiaid a adawyd gan Alecsander yn ei ddinas newydd ran bwysig i chwarae yn agor Llwybr y Sidan rhwng Tsieina a gwledydd y Gorllewin.
Yn ôl yr awdur Rhufeinig Curtius, roedd trigolion Alexandria Eschate yn dal i arddel diwylliant Helenistig tua'r flwyddyn 30 OC.