Alffred Fawr
Alffred Fawr (848/849 - 26 Hydref 899) oedd Brenin Wessex rhwng 871 a c.886 a Brenin yr Eingl-Sacsoniaid rhwng c. 886 a 899. Ef oedd mab ieuengaf y Brenin Æthelwulf o Wessex.[1] Bu farw ei dad pan oedd yn ifanc, a bu tri brawd Alffred, Æthelbald, Æthelberht ac Aethelred, yn rheoli o flaen Alffred.[2]
Alffred Fawr | |
---|---|
Ganwyd | 849 Wantage |
Bu farw | Caerwynt |
Dinasyddiaeth | Wessex |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, teyrn |
Swydd | teyrn Lloegr, brenin Wessex |
Dydd gŵyl | 26 Hydref |
Tad | Æthelwulf |
Mam | Osburh |
Priod | Ealhswith |
Plant | Æthelflæd, Edward yr Hynaf, Ælfthryth o Fflandrys, Æthelweard, Æthelgifu |
Llinach | Teyrnas Wessex |
Wedi iddo ddod i’r orsedd, treuliodd Alffred sawl blwyddyn yn brwydro yn erbyn ymosodiadau gan y Llychlynwyr.[3] Enillodd fuddugoliaeth bwysig ym Mrwydr Edington yn 878 a lluniodd gytundeb gyda’r Llychlynwyr, gan sefydlu Cyfraith y Daniaid yng ngogledd Lloegr yn y pen draw. Arolygodd Alffred hefyd droedigaeth grefyddol yr arweinydd Llychlynnaidd, Guthrum, i Gristnogaeth.[2][4] Llwyddodd i amddiffyn ei deyrnas rhag ymosodiadau ac ymdrechion y Llychlynwyr i goncro ei deyrnas, ac oherwydd hynny datblygodd i fod yn brif lywodraethwr Lloegr. Mae gwybodaeth am ei fywyd wedi ei chynnwys yng ngwaith yr esgob a’r ysgolhaig Asser.
Roedd Alffred yn enwog am fod yn ddyn dysgedig a thrugarog, gyda natur hawddgar a phwyllog a oedd yn hyrwyddo addysg a dysg. Un o’i awgrymiadau yn y maes hwn oedd cynnig bod addysg gynradd yn cael ei chyflwyno mewn Hen Saesneg yn hytrach na Lladin.[1] Bu hefyd yn unigolyn pwysig o ran sicrhau bod gwelliannau'n digwydd o fewn y gyfundrefn gyfreithiol a milwrol, ac ymdrechodd i wella cyflwr bywyd cyffredinol ei bobl.[1] Rhoddwyd y teitl ‘Fawr’ iddo yn ystod ac ar ôl Diwygiad y 16g. Ef, ynghyd â’r Brenin Danaidd, Cnut Fawr neu Canute, yw’r unig frenhinoedd yn hanes Lloegr sydd wedi cael eu hanrhydeddu gyda’r ansoddair hwn.
Bywyd Cynnar
golyguGanwyd Alffred rhwng 847 ac 849 O.C. yn Wantage. Roedd yn fab i bumed Brenin Wessex, Ethelwulf, a’i wraig gyntaf, Osburga. Dywedir bod Alffred wedi mynd i Rufain pan oedd yn bump oed, ac iddo ymweld â Siarl, Brenin Ffrainc, gyda’i dad rhwng 854 ac 855. Bu farw Ethelwulf yn 858, a rheolwyd Wessex gan dri brawd Alffred, un ar ôl y llall. Am flynyddoedd, bu'n rhaid iddynt dalu'n ddrud i'r Daniaid am adael llonydd i'w pobl, ond yn 870 glaniodd llu enfawr ohonynt a chafwyd blynyddoedd o frwydro. Cofnodir i o leiaf 9 brwydr ddigwydd, gydag Alffred yn cael y llaw uchaf ar 5 Ionawr 871 gerllaw Reading, a phum diwrnod yn ddiweddarach ym Mrwydr Ashdown (Berkshire), ond ar 22 Mawrth lladdwyd ei frawd Ethelred ym Mrwydr Merton yn Wiltshire.
Brenin Wessex
golyguCoronwyd Alffred yn frenin Wessex ac aeth ati i geisio heddwch.
Cofiant
golyguYsgrifennodd yr esgob Asser y Vita Ælfredi regis Angul Saxonum yn 893.
Alffred mewn celfyddyd
golyguMae opera enwog gan Thomas Arne am Alffred sy'n cynnwys y gân Rule Britannia gan James Thomson fel ffinale. Mae'r gân yn ymgais fwriadol i asio hanes brenin Lloegr gyda'r enw Prydain.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Abels, Richard Philip, 1951- (1998). Alfred the Great : war, kingship, and culture in Anglo-Saxon England. Harlow, England: Longman. ISBN 0-582-04047-7. OCLC 38948415.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ 2.0 2.1 Asser, John, -909. Alfred the Great : Asser's Life of King Alfred and other contemporary sources. Keynes, Simon., Lapidge, Michael. Harmondsworth, Middlesex, England. ISBN 0-14-044409-2. OCLC 10380574.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ The Anglo-Saxon Chronicle (yn Saesneg). 1 Medi 1996.
- ↑ "Alfred the Great", 1911 Encyclopædia Britannica Volume 1, https://en.wikisource.org/wiki/1911_Encyclop%C3%A6dia_Britannica/Alfred_the_Great, adalwyd 2020-09-07
- ↑ "Thomson, James (poet, 1700–1748)", 1911 Encyclopædia Britannica Volume 26, https://en.wikisource.org/wiki/1911_Encyclop%C3%A6dia_Britannica/Thomson,_James_(poet,_1700%E2%80%931748), adalwyd 2020-09-03