Un o brif deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, yn ne Lloegr, oedd Wessex. Teyrnas y Sacsoniaid Gorllewinol oedd Wessex (West Sax[ons]). Yn y nawfed ganrif unwyd y Lloegr Eingl-Sacsonaidd ganddi. Ei chanolbwynt oedd basn uchaf Afon Tafwys. O'r 6g ymlaen ymledodd i'r de-orllewin. Daeth i wrthdrawiad â theyrnas Mersia, teyrnas bennaf Lloegr y pryd hynny, a bu brwydro am oruchafiaeth rhyngddynt tan 825 pan lwyddodd Egbert, brenin Wessex (802-839) i osod ei awdurdod ar Fercia. Ar sail y goruchafiaeth hynny unodd Alffred Fawr (849-899) Loegr (ac eithrio tiriogaeth y Daniaid yn nwyrain Lloegr, sef y Ddaenfro).

Wessex
Mathgwlad ar un adeg, teyrnas Edit this on Wikidata
PrifddinasCaerwynt, Llundain Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 519 (tua) Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
West Saxon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Saith Deyrnas Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.2°N 2°W Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/Enwadpaganiaeth Eingl-Sacsonaidd, Cristnogaeth Edit this on Wikidata
Ariansceat Edit this on Wikidata

Rhestr o Frenhinoedd a Thywysogion Wessex golygu

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.