Asser
Roedd Asser (bu farw 908/909) yn fynach o Gymru a wahoddwyd i lys Alffred Fawr, brenin Wessex, i'w helpu i addysgu ei bobl. Mae yna darddodiad mai "Gwyn" oedd ei enw gwreiddiol, ond nid oes tystiolaeth i brofi hyn. Daw'r enw "Asser" o'r Beibl; roedd yr Asser gwreiddiol yn fab i Jacob o Leah.
Asser | |
---|---|
Ganwyd | 9 g Tyddewi |
Bu farw | c. 909 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd, llenor, cofiannydd, offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Bishop of Sherborne |
Bywgraffiad
golyguMynach o Dyddewi oedd Asser. Daw'r rhan fwyaf o'r wybodaeth sydd ar gael amdano o'i fywgraffiad Lladin o Alffred a ysgrifennwyd yn 893. Mae'r llyfr yma yn ffynhonnell bwysig iawn ar gyfer hanes Lloegr yn y cyfnod yma. Dywed Asser ei fod, ar ôl cryn betruso, wedi derbyn gwahoddiad Alffred gan ei fod yn credu y gallai fod o fwy o gymorth i'w bobl yn ei lys ef nag yn Nhyddewi. Cred Syr Ifor Williams fod Asser wedi ysgrifennu ei fywgraffiad ar gyfer y Cymry yn hytrach nag ar gyfer y Saeson, gan ei fod droeon yn esbonio enw Saesneg trwy roi'r enw Cymraeg ar y lle.
Rywbryd rhwng 892 a 900 gwnaed Asser yn esgob Sherborne. Dywedir ei fod eisoes wedi bod yn esgob, ond mae'n ansicr a oedd yn Esgob Tyddewi, er fod Gerallt Gymro yn ei restru fel Esgob Tyddewi yn ei Itinerarium Cambriae (1191).
Llyfryddiaeth
golygu- O Lygad y Ffynnon: cyfieithiadau o weithiau haneswyr boreuaf Cymru, gol. John Owen Jones (Y Bala: Davies ac Evans, 1890) - yn cynnwys bywgraffiad Asser o Alffred.