Alfred George Edwards
archesgob cyntaf Cymru
Archesgob cyntaf yr Eglwys yng Nghymru oedd Alfred George Edwards (2 Tachwedd 1848 – 22 Gorffennaf 1937).
Alfred George Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 2 Tachwedd 1848 Llanymawddwy |
Bu farw | 22 Gorffennaf 1937 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Ganed ef yn Llanymawddwy. Cyhoeddodd Landmarks in the history of the Welsh Church yn 1912. Astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen cyn ymgymryd â swydd Warden yng Ngholeg Llanymddyfri yn 1875. Yn yr un flwyddyn fe'i ordeiniwyd yn offeiriad. Yn 1885 fe'i benodwyd yn offeiriad Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin.[1]
Bu'n Esgob Llanelwy o 1889 hyd 1934,[2] ac yn 1920 penodwyd ef yn Archesgob Cymru, swydd y bu ynddi hyd 1934. Pan ddatgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth yr Eglwys yn Lloegr yn 1920 fe'i penodwyd yn Archesgob, y cyntaf. Ymddeolodd yn 1934, bu farw yn 1937 a chladdwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.[3]
Rhagflaenydd : Neb |
Archesgob Cymru Alfred George Edwards |
Olynydd : Charles Alfred Howell Green |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Who's Who 1897–20, 1991, ISBN 978-0-19-954087-7
- ↑ The Bishop Of St Asaph (News), The Times, 26 Ebrill 1889; tud. 7; Rhif 32683; colofn F
- ↑ Ecclesiastical News, Archbishop Of Wales's Retirement (Official Appointments and Notices), The Times, 25 Gorffennaf 1934; tud. 15; Rhif 46815; colofn D