Llanymawddwy

pentref yng Ngwynedd

Mae Llanymawddwy ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref yng Ngwynedd sydd ychydig i'r gogledd o bentref mwy Dinas Mawddwy, ar y ffordd fechan sy'n cysylltu Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn tros Fwlch y Groes. Mae Afon Dyfi, sy'n tarddu ar Aran Fawddwy gerllaw, yn llifo heibio'r pentref. Daw'r enw o gwmwd Mawddwy. Yr adeilad mwyaf nodedig yw Eglwys Sant Tydecho, lle mae traddodiad canu'r Plygain yn parhau.

Llanymawddwy
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.75°N 3.63°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH902189 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Yn Llanymawddwy y ganed Alfred George Edwards, a ddaeth yn Archesgob cyntaf Cymru, a bu'r llenor a geiriadurwr Daniel Silvan Evans yn rheithor yma.

Eglwys Sant Tydecho

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu