Cartwnydd dychanol a libretydd o Unol Daleithiau America oedd Alfred Thompson (7 Hydref 1831 - 31 Awst 1895). Cafodd ei eni yn Llundain yn 1831 ac addysgwyd ef yng Ngholeg y Drindod, Ysgol Rugby. Bu farw yn Ninas Efrog Newydd.

Alfred Thompson
FfugenwSteward McGuzzler, Thompson E. Jones, ATn Edit this on Wikidata
Ganwyd7 Hydref 1831 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 1895 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethcartwnydd dychanol, libretydd, dylunydd gwisgoedd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Thompson yn Llundain. Addysgwyd ef yn Rygbi a Brighton. Aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, ym 1850 a graddiodd B.A. ym 1855. Gwasanaethodd fel swyddog marchoglu yn 6ed catrawd y dragŵn o 1855 hyd iddo werthu ei gomisiwn ym 1857. Dechreuodd fel cornet gan gael ei ddyrchafu'n gapten. Ym 1854 gwerthodd ei ddarluniad cyntaf i Diogenes ac ym 1856-1858 fe werthodd nifer o ddarluniadau i Punch.[1]. Astudiodd gelf ym München gan cael gwersi preifat gan Karl von Piloty ac ym Mharis dan Thomas Couture. Ym 1867 ar gais Arthur a Beckett, ymunodd Thompson â staff llenyddol cylchgrawn The Tomahawk.[2]

O fis Chwefror i fis Rhagfyr 1868, golygodd Thompson a Leopold Davis Lewis adolygiad misol The Mask,[3] ond methiant bu'r fenter. Yn y 1860au, daeth Thompson yn llwyddiannus fel libretydd, dylunydd gosod a dylunydd gwisg ar gyfer y theatr gerdd yn Llundain. Dyluniodd dros bum mil o wisgoedd ar gyfer llwyfan Llundain.[4] Yn ystod y 1870au ym Manceinion, roedd yn rheolwr gyfarwyddwr y Theatr Frenhinol a Theatr y Tywysog. Ym mis Mai 1883 fel newyddiadurwr, bu'n cynrychioli'r Daily News yng ngwasanaeth coroni'r Tsar Alexader III. Symudodd Thompson i Manhattan a daeth yn llwyddiannus fel libretydd ar gyfer sioeau gerdd Efrog Newydd yn debyg i'r rhai y bu'n gweithio arno yn Llundain a Manceinion.

Libretos golygu

The Lion's Mouth. Llundain. 1867.

  • Columbus, or The Original Pitch in a Merry Key. Gaiety Theatre, Llundain. 1869.
  • Aladdin II, or an Old Lamp in a New Light. Llundain. 1870.
  • Cinderella, the Younger. Llundain. 1871.
  • Belladonna, or The Little Beauty and the Great Beast. Prince's Theatre, Manceinion. 1878.
  • Pepita, or the Girl with the Glass Eyes. Union Square Theatre, Efrog Newydd. 1886.
  • The Arabian Nights, or Aladdin's Wonderful Lamp. Efrog Newydd. 1887.
  • The Crystal Slipper, or Prince Prettywitz and Little Cinderella. Star Theatre, Efrog Newydd. 1888.

Mae yna enghreifftiau o waith Alfred Thompson yn gasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Oriel golygu

Dyma ddetholiad o weithiau gan Alfred Thompson:

Cyfeiriadau golygu

  1. Spielmann, M. H. (1895). "Alfred Thompson". A history of "Punch". Cassell & Co. p. 500
  2. À Beckett, Arthur William (1903). The à Becketts of "Punch". tud. 158–159
  3. The Mask ("a humorous and fantastic review") – Hathitrust Digital Library adalwyd 6 Chwefror 2019
  4. Alfred Thompson". The Biograph and Review. New Series.—Part I. I: 414–417. January 1882.