Algernon Charles Swinburne

Bardd a llenor o Sais
(Ailgyfeiriad o Algernon Swinburne)

Bardd a llenor o Sais oedd Algernon Charles Swinburne (5 Ebrill 183710 Ebrill 1909).

Algernon Charles Swinburne
Ganwyd5 Ebrill 1837 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ebrill 1909 Edit this on Wikidata
o y ffliw Edit this on Wikidata
Llundain, Putney Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, llenor, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAtalanta in Calydon, Poems and Ballads Edit this on Wikidata
TadCharles Henry Swinburne Edit this on Wikidata
MamJane Ashburnham Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganwyd yn Westminster, Llundain, i deulu bonheddig. Magwyd yn Ynys Wyth. Addysgwyd yng Ngholeg Eton (1849–53) a Choleg Balliol, Rhydychen (1856–60). Yn ddyn ifanc y treuliodd gyfnodau yn Northumberland, a ystyriodd yn famwlad iddo. Rhoddodd ei dad lwfans iddo, felly galluogwyd ef i ddilyn gyrfa lenyddol.

Roedd Swinburne yn un o feirdd telynegol mwyaf medrus y Cyfnod Fictoraidd, ond hefyd un o'r rhai mwyaf dadleol. Roedd ei waith yn destun edmygedd a chondemniad i'w gyfoedion. Arddangodd ysbryd gwrthryfel yn erbyn côd moesol ei gyfnod yn y themâu rhywiol eglur yn ei gasgliad Poems and Ballads (1866),

Tanseiliwyd ei iechyd, nad oedd erioed yn dda, gan ei alcoholiaeth a’i arferion masochistaidd. Ym 1879 dioddefodd argyfwng yn ei iechyd. Fe'i achubwyd gan ei ffrind Theodore Watts-Dunton. Treuliodd Swinburne 30 mlynedd olaf ei fywyd dan warchodaeth Watts-Dunton, a gadwodd reolaeth lem ar ei ffordd o fyw, ac a anogodd Swinburne i ymroi i ysgrifennu. Yn y pen draw, daeth Swinburne yn ffigwr o rywfaint o barchusrwydd.

Swinburne yn ddyn ifanc, portread gan Dante Gabriel Rossetti (1862)

Llyfryddiaeth

golygu

Barddoniaeth

golygu
  • Atalanta in Calydon (1865)
  • Poems and Ballads (1866)
  • Songs Before Sunrise (1871)
  • Songs of Two Nations (1875)
  • Erechtheus (1876)
  • Poems and Ballads, Second Series (1878)
  • Songs of the Springtides (1880)
  • Studies in Song (1880)
  • The Heptalogia (1880)
  • Tristram of Lyonesse (1882)
  • A Century of Roundels (1883)
  • A Midsummer Holiday and Other Poems (1884)
  • Poems and Ballads, Third Series (1889)
  • Astrophel and Other Poems (1894)
  • The Tale of Balen (1896)
  • A Channel Passage and Other Poems (1904)

Dramâu fydryddol

golygu
  • The Queen Mother (1860)
  • Rosamond (1860)
  • Chastelard (1865)
  • Bothwell (1874)
  • Mary Stuart (1881)
  • Marino Faliero (1885)
  • Locrine (1887)
  • The Sisters (1892)
  • Rosamund, Queen of the Lombards (1899)

Rhyddiaeth

golygu
  • William Blake: A Critical Essay (1868, 2/1906)
  • Under the Microscope (1872)
  • George Chapman: A Critical Essay (1875)
  • Essays and Studies (1875)
  • A Note on Charlotte Brontë (1877)
  • A Study of Shakespeare (1880)
  • A Study of Victor Hugo (1886)
  • A Study of Ben Johnson (1889)
  • Studies in Prose and Poetry (1894)
  • The Age of Shakespeare (1908)
  • Shakespeare (1909)

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.