Westminster

ardal yng nghanol Llundain, o fewn Dinas Westminster

Westminster yw'r enw a roddir ar ardal yng nghanol Llundain. Dyma ganolbwynt gwleidyddol y Deyrnas Unedig am i'w Senedd gyfarfod ym Mhalas San Steffan yn y fangre. Crëwyd y fwrdeistref fodern llawer ehangach, Dinas Westminster, ym 1900.

Westminster
Mathardal o Lundain, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4995°N 0.1333°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ295795 Edit this on Wikidata
Cod postSW1 Edit this on Wikidata
Map

Hen enw Saesneg yr ardal yw Thorney Island, o'r dyddiau pan oedd y tir yn gorsiog ac yn anaddas ar gyfer adeiladu. Cyfeiria'r enw modern Westminster at yr Abaty a leolir yma. Yn Gymraeg defnyddir yr enw "San Steffan" i gyfeirio at y Senedd mewn modd tebyg ag y defnyddir Westminster yn Saesneg, ond nid yw'n ddilys cyfeirio at yr ardal fel "San Steffan" yn Gymraeg.[1]

Gyferbyn â Phalas San Steffan y mae Abaty Westminster, hen adeilad crefyddol a sefydlwyd gan Edward y Cyffeswr yn yr 11g. Mae coroni bron pob brenin a brenhines Lloegr wedi digwydd yn yr eglwys hon ers 1066, ac mae llawer ohonynt wedi'u claddu yno, ynghyd ag amryw o enwogion eraill. Penodwyd yr ardal sy'n cynnwys y Palas, yr Abaty ac Eglwys y Santes Fererid yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO ym 1987.

Yng nghanol yr ardal hon mae Sgwâr y Senedd (Parliament Square), lle ceir nifer o gerfluniau o wleidyddwyr o bwys, gan gynnwys un o Winston Churchill gan y cerflunydd Cymreig Ivor Roberts-Jones. Yn 2007 dadorchuddiwyd cerflun o David Lloyd George ar blinth o lechfaen Chwarel y Penrhyn, ac yn fwy diweddar ychwanegwyd cerfluniau o Nelson Mandela, Mahatma Gandhi a'r etholfreintwraig Millicent Fawcett. Mae Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, Neuadd Canolog y Methodistiaid a Chanolfan Cynadledda Brenhines Elisabeth II hefyd gerllaw, fel y mae ysgol bonedd Westminster.

I'r gogledd mae Whitehall, Sgwâr Trafalgar a Pharc Iago Sant, i'r gorllewin mae ardal gorsaf reilffordd Victoria a Phalas Buckingham, i'r de mae Pimlico ac i'r dwyrain dros afon Tafwys mae Lambeth.

Panorama o'r ardal
Cerflun David Lloyd George, Sgwâr y Senedd

Cyfieiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "Westminster"

Dolenni allanol golygu

  • (Saesneg) Westminster, gan Syr Walter Besant, Geraldine Edith Mitton a Mrs A. Murray Smith, 1902, o Brosiect Gutenberg