Ffeminist Americanaidd oedd Alice Paul (11 Ionawr 1885 - 9 Gorffennaf 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithegydd a arbenigai mewn hawliau merched, ac fel swffragét.

Alice Paul
Ganwyd11 Ionawr 1885 Edit this on Wikidata
Mount Laurel, New Jersey Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1977 Edit this on Wikidata
Moorestown, New Jersey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Coleg Swarthmore
  • Prifysgol Pennsylvania
  • Canolfan y Gyfraith Prifysgol Georgetown
  • Prifysgol America
  • Moorestown Friends School
  • Woodbrooke Quaker Study Centre Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithegwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét Edit this on Wikidata
Mudiadffeministiaeth, pleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut, Hall of Fame Menywod New Jersey, Neuadd Enwogion New Jersey, Medal y Swffragét Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.alicepaul.org/ Edit this on Wikidata

Cafodd Alice Stokes Paul ei geni yn Mount Laurel, New Jersey ar 11 Ionawr 1885; bu farw yn Moorestown Township, New Jersey. Hi oedd yr hynaf o bedwar o blant William Mickle Paul I (1850–1902) a Tacie Paul (g. Parry), ac roedd yn ddisgynnydd i William Penn, sefydlydd y Crynwyr yn Pennsylvania.[1][2][3]

Roedd Paul yn un o brif arweinwyr a strategwyr yr ymgyrch dros ddiwygio'r bedwaredd diwygiad ar bymtheg o Gyfansoddiad yr UDA, sydd bellach yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhyw yn yr hawl i bleidleisio. Cynlluniodd Paul, ynghyd â Lucy Burns ac eraill, ddigwyddiadau strategol megis Gorymdaith Etholfraint y Menywod (Woman Suffrage Procession) a'r Gwyliedydd Tawel (the Silent Sentinels), a oedd yn rhan o'r ymgyrch lwyddiannus a arweiniodd at dderbyn y gwelliant yn 1920.

Ar ôl 1920, treuliodd Paul hanner canrif fel arweinydd Plaid Genedlaethol y Menywod, a ymladdodd dros y Gwelliant (Hawliau Cyfartal) neu Equal Rights Amendment, a ysgrifennwyd gan Paul a Crystal Eastman, i sicrhau cydraddoldeb cyfansoddiadol i fenywod. Enillodd gryn lwyddiant gyda chynnwys menywod fel grŵp a ddiogelwyd yn erbyn gwahaniaethu gan Ddeddf Hawliau Sifil 1964.

Cafodd ei magu yn nhraddodiad y Crynnwyr - traddodiad a oedd yn rhoi gwasanaethu'r cyhoedd yn flaenoriaeth; roedd ei hynafiaid yn aelodau o Bwyllgor Gohebiaeth Newydd Jersey (New Jersey Committee of Correspondence) yn y 19g. Dysgodd Alice am etholfraint gan ei mam, a oedd yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol Menywod America (NAWSA). Weithiau byddai Paul yn ymuno â'i mam i yng nghyfarfodydd y swffragétiaid.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd, Silent Sentinels, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd. [4][5]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1979), Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut (1994), Hall of Fame Menywod New Jersey, Neuadd Enwogion New Jersey, Medal y Swffragét[6][7] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014
  2. Dyddiad geni: "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Stokes Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Dyddiad marw: "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Stokes Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Galwedigaeth: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 31 Mawrth 2015
  5. Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/alice-paul/. https://www.cwhf.org/inductees/alice-paul.
  6. https://www.womenofthehall.org/inductee/alice-paul/.
  7. https://www.cwhf.org/inductees/alice-paul.