Mae'r aligator yn grocodeiliad yn y genws Alligator o deulu Alligatoridae. Y ddwy rywogaeth sydd mewn bod yw'r aligator Americanaidd (A. mississippiensis) a'r aligator Tsieineaidd (A. sinensis). Yn ogystal â hynny, gwyddom o astudio olion ffosil bod nifer o rywogaethau o aligatorau bellach wedi diflannu. Ymddangosodd yr aligatorau cyntaf yn ystod y cyfnod Oligosen tua 37 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[1]

Aligator
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
MathYmlusgiad Edit this on Wikidata
Safle tacsongenws Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonAlligatorinae Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 38. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aligator Americanaidd

Mae'r enw "aligator" fwy na thebyg yn ffurf o'r enw el lagarto, sy'n golygu 'madfall' yn Sbaeneg ac sydd wedi'i Saesnigeiddio. Dechreuodd y concwistadoriaid ddefnyddio'r enw Sbaeneg a dechreuodd ymfudwyr i Florida ei ynganu a'i sillafu fel 'aligator'.[2] Roedd sillafiadau cynnar yn y Saesneg hefyd yn cynnwys allagarta ac alagarto.[3]

Disgrifiad golygu

Mae aligator Americanaidd maint llawn yn pwyso tua 360 kilogram (790 pwys) a thua 4.0 medr (13.1 troedfedd) o hyd, ond maen nhw'n gallu tyfu i 4.4 medr (14 troedfedd) a phwyso dros 450 kilogram (990 pwys).[4] Roedd y mwyaf sydd ar gofnod yn 5.84 medr (19.2 troedfedd) o hyd.[5] Mae'r aligator Tsieineaidd yn llai, yn anaml dros 2.1 medr (6.9 troedfedd) o hyd. Mae hefyd yn pwyso llai o lawer, gyda gwrywod ddim mwy na 45 kilogram (99 pwys) fel arfer.

Pan fydd aligators wedi tyfu, maen nhw'n ddu neu'n lliw brown olewydd tywydd gyda boliau gwyn, tra bod gan y rhai iau farciau gwyn a melyn trawiadol sy'n pylu dros amser.[6]

Nid yw cyfartaledd oes aligator wedi'i fesur ar gyfartaledd[7] Yn 1937, cafodd Sw Belgrade yn Serbia aligator maint llawn o'r enw Muja. Mae bellach o leiaf 80 mlwydd oed.[8] Nid oes ganddo gofnod dilys o ddyddiad ei eni, ond mae'n cael ei ystyried yn yr aligator hynaf sydd mewn caethiwed.[9]

Rhywogaethau (byw) golygu

Delwedd Enw gwyddonol Enw cyffredin Dosbarthiad
  Alligator mississippiensis Aligator Americanaidd Texas i Ogledd Carolina, Unol Daleithiau
  Alligator sinensis Aligator Tsieineaidd dwyrain Tseina.

Ffosiliau golygu

  • Alligator mcgrewi
  • Alligator mefferdi
  • Alligator olseni
  • Alligator prenasalis

Galeri o rywogaethau byw golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Brochu, C.A. (1999). "Phylogenetics, taxonomy, and historical biogeography of Alligatoroidea". Memoir (Society of Vertebrate Paleontology) 6: 9–100. doi:10.2307/3889340.
  2. American Heritage Dictionaries (2007). Spanish Word Histories and Mysteries: English Words That Come From Spanish. Houghton Mifflin Harcourt. tt. 13–15. ISBN 9780618910540.
  3. Morgan, G. S., Richard, F., & Crombie, R. I. (1993). The Cuban crocodile, Crocodylus rhombifer, from late quaternary fossil deposits on Grand Cayman. Caribbean Journal of Science, 29(3-4), 153-164. "Archived copy" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-03-29. Cyrchwyd 2014-03-28. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  4. "American Alligator and our National Parks". eparks.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2016-05-01.
  5. "Alligator mississippiensis". alligatorfur.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2016-05-01.
  6. "Crocodilian Species – American Alligator (Alligator mississippiensis)". crocodilian.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-25. Cyrchwyd 2018-07-18.
  7. Kaku, Michio (March 2011). Physics of the Future: How Science Will Shape Human Destiny And Our Daily Lives by the Year 2100. Doubleday. tt. 150, 151. ISBN 978-0-385-53080-4.Check date values in: |date= (help)
  8. "Oldest alligator in the world". b92.net. Cyrchwyd 2012-02-08.
  9. "The oldest alligator living in captivity". shekoos.wordpress.com. 2012-02-22. Cyrchwyd 2013-08-07.