Ymlusgiad
Ymlusgiaid | |
---|---|
![]() | |
Madfall agama (Agama agama) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Is-ffylwm: | Vertebrata |
Dosbarth: | Laurenti, 1768 |
Isddosbarthiadau | |
Cyfystyron | |
Sauropsida Goodrich, 1916 |
Anifeiliaid asgwrn-cefn gwaed oer gyda chroen cennog yw ymlusgiaid.
Mae ymlusgiaid ar pob cyfandir heblaw am Antarctica er fod mwyafrif ohonyn yn byw mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol. Mae tymheredd eu cyrff yn newid ac felly maen nhw'n dibynnu ar dymheredd yr amgylchedd. Mae'r mwyafrif o rywogaethau'n gigysol ac yn ofiparol (hy maen nhw'n dodwy wyau).
Mae ymlusgiaid modern yn perthyn i'r urddau canlynol:
- Crocodilia (crocodeilod ac aligatoriaid): 23 rhywogaeth
- Sphenodontida (twataraid o Seland Newydd): 2 rhywogaeth
- Squamata (madfallod, nadroedd ac amwiboniaid): tua 7,600 rhywogaeth
- Testudines (crwbanod): tua 300 rhywogaeth
CymruGolygu
Pump rhywogaeth o ymlusgiaid sy'n frodorol i Gymry: dwy neidr, a thair madfall. Mae'r neidr wair (Natrix natrix) yn weddol eang ei dosbarthiad a'r wiber (Vipera berus) wenwynig yn fwy arfordirol. Ceir llawer o gyfeiriadau llên gwerin at wiberod, e.e. eu gallu i rowlio'n gylch, fel olwyn, i lawr allt. Credir fod 'Gwiber Penhesgyn' yn fath o ddraig neu sarff anferth reibus chwedlonol (Môn).
Mae'r neidr ddefaid (Anguis fragilis) yn fadfall ddi-goes a'r madfall cyffredin (Lacerta lacerta), yn eang eu dosbarthiad. Ceir llawer o enwau lleol ar y madfall cyffredin, e.e. cena pry gwirion (Llŷn), Galapi wirion (Môn), gena goeg (Clwyd), motrywilen a botrywilen (Dyfed). Collwyd madfall y tywod (L. agilis) o Gymru am gyfnod byr ar ddiwedd yr 20g, ond fe'i hailgyflwynwyd i safleoedd addas.
Cofnodwyd crwbanod môr ar draethau Cymru yn achlysurol, yn cynnwys y crwban môr cefn-lledr (Dermochelys coriacea) anferth ar Forfa Harlech yn 1988 a arddangosir bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.