Allez Cymru
Cyfrol am bêl-droed gan Gary Pritchard yw Allez Cymru a gyhoeddwyd yn 2016 gan St. David's Press. Man cyhoeddi: Caerdydd, Cymru.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Gary Pritchard |
Cyhoeddwr | St. David's Press |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg a Saesneg |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781902719528 |
Genre | Llyfrau am chwaraeon |
Llyfr darluniadol dwyieithog, llawn lliw yn dathlu'r mis o bêl-droed anhygoel a hwyl aruthrol a gafodd cefnogwyr Cymru yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016 yw Allez Cymru. Llyfr ar gyfer cefnogwyr o 5 i 105 mlwydd oed.
Mae Gary Pritchard wedi bod yn gefnogwr tîm pêl-droed Cymru ar hyd ei oes ac wedi bod i dros 50 o gêmau oddi cartref i gefnogi'r tîm cenedlaethol. Mae'n gyfranwr cyson i Ar y Marc ar Radio Cymru ac yn arbenigwr ffeithiau pêl-droed adnabyddus, mae Gary yn byw ar Ynys Môn ac yn gynhyrchydd teledu ar raglenni chwaraeon, megis Y Clwb a Sgorio.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.