Alltiriogaethedd
Enw ar gysyniad pwysig ym myd diplomyddiaeth yw alltiriogaethedd sydd yn caniatáu awdurdodaeth y gyfraith gan un wladwriaeth ar diriogaeth gwladwriaeth arall. Mae'n dibynnu ar ddychmygiad cyfreithiol sydd yn ystyried eiddo real y llysgenhadaeth dan awdurdodaeth yr anfonwr-wladwriaeth er ei leoliad yn nhiriogaeth y wladwriaeth letyol. Gellir olrhain cysyniad alltiriogaethedd yn ôl i De Jure Belli ac Pacis (1625) gan Hugo Grotius, ac yn Le Droit des Gens (1758) ysgrifennai Emerich de Vattel: "dyma yn unig ffordd drosiadol o ddisgrifio annibyniaeth [y llysgennad] ar awdurdodaeth y wlad a'i feddiant ar yr holl hawliau sydd eu hangen er llwyddiant y llysgenhadaeth". Ni sonir fawr am alltiriogaethedd gan ysgolheigion y gyfraith ryngwladol ers y 19g, ond fe'i defnyddir weithiau mewn disgwrs wleidyddol i atgyfnerthu'r syniad o freinryddid diplomyddol.[1]
Math | statws cyfreithiol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn hanesyddol, nid norm a gydnabuwyd yn rhyngwladol oedd alltiriogaethedd. Yn ystod cyfnod imperialaeth Ewropeaidd, roedd yn gyffredin i'r wladwriaeth ymerodrol fynnu gorfodi'r gyfraith gartref ar yr alltudion a oedd yn byw ac yn gweithio yn y gwladfeydd yn hytrach na chyfraith frodorol neu'r un gyfundrefn a orfodwyd ar y brodorion gan yr awdurdodau trefedigaethol.
Bellach, er nad yw alltiriogaethedd wedi ei ymgorffori yn gyflawn y gyfraith ryngwladol, perchir y syniad tu mewn i ffiniau'r llysgenhadaeth. Dyma arfer gyffredin hefyd gan gynghreiriau milwrol i gydnabod alltiriogaethedd pan bo lluoedd arfog un wladwriaeth yn breswyl mewn tiriogaeth un o'i chynghreiriaid, yn ffurfiol drwy gytundebau, er enghraifft Deddf Statws Lluoedd NATO (1951).[2]