Altäeg
iaith
(Ailgyfeiriad oddi wrth Altaeg)
Un o'r ieithoedd Tyrcaidd yw Altäeg[1] neu Altai, sy'n un o ieithoedd swyddogol Gweriniaeth Altai, Rwsia. Cyfeirid at yr iaith fel Oyrot cyn 1948. Mae'n ymrannu'n ddwy brif dafodiaith a ystyrir gan rai yn ieithoedd ar wahân, sef Altäeg y Gogledd ac Altäeg y De.
SiaradwyrGolygu
Prif siaradwyr brodorol yr Altäeg yw'r Altai yng Ngweriniaeth Altai ac yn rhanbarth Altai Krai yn rhan Rwsiaidd Canolbarth Asia. Mae tua 20,000 yn siarad Altäeg yn rhugl gyda tua 70,000 arall yn ei deall i ryw raddau. Mae'r rhan fwyaf o'r siaradwyr brodorol hyn yn siarad Altäeg y De.
SgriptGolygu
Arferid ysgrifennu'r iaith mewn sgript Lladin o 1928 hyd 1938, ond defnyddir yr wyddor Gyrilig (gyda pedair llythyren ychwanegol: Јј, Ҥҥ, Ӧӧ, Ӱӱ) ers 1938.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Geiriadur yr Academi, "Altaic".