Gweriniaeth Altai
Mae Gweriniaeth Altai (Rwseg: Респу́блика Алта́й, Respublika Altay; Altäeg: Алтай Республика, Altay Respublika) yn weriniaeth ffederal yn Rwsia. Ei phrifddinas yw Gorno-Altaysk. Arwynebedd: 92,600 cilometr sgwâr (35,800 milltir sgwâr). Poblogaeth: 206,168 (Cyfrifiad 2010).
Math | gweriniaethau Rwsia |
---|---|
Prifddinas | Gorno-Altaysk |
Poblogaeth | 210,765 |
Sefydlwyd | |
Anthem | National Anthem of the Altai Republic |
Pennaeth llywodraeth | Andrei Chukchak |
Cylchfa amser | Amser Omsk, Amser Krasnoyarsk, UTC+07:00, Asia/Barnaul |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Southern Altai |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Siberia |
Lleoliad | Altai, Western Siberia |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 92,903 km² |
Yn ffinio gyda | Crai Altai, Oblast Kemerovo, Khakassia, Twfa, Ardal Dwyrain Kazakhstan, Talaith Bayan-Ölgii, Xinjiang |
Cyfesurynnau | 50.85°N 86.9°E |
RU-AL | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | State Assembly of the Altai Republic |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Head of the Altai Republic |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrei Chukchak |
- Erthygl am y weriniaeth yw hon. Gweler hefyd Altai (gwahaniaethu).
Daearyddiaeth
golyguLleolir y weriniaeth yng nghanol Asia lle mae taiga Siberia, steppes Casachstan ac anialdiroedd Mongolia yn cyffwrdd. Mae coedwigoedd yn gorchuddio tua 25% o diriogaeth y weriniaeth. Gorwedd y weriniaeth yn rhan Rwsiaidd Mynyddoedd Altai; y mynydd uchaf yno yw Gora Belukha (Mynydd Belukha: 4,506 m). Ceir nifer o afonydd a llynnoedd.
O fewn Ffederaliaeth Rwsia mae'r weriniaeth yn ffinio ag -
- Oblast Kemerovo (gogledd), Gweriniaeth Khakassia (gogledd-ddwyrain), Gweriniaeth Tuva (dwyrain), ac Altai Krai (gorllewin).
Yn rhyngwladol -
- Mongolia (Talaith Bayan-Ölgii) (de-ddwyrain), Gweriniaeth Pobl Tsieina (Rhaglawiaeth Altay) (de), a Casachstan (Dwyrain Casachstan) (de-orllewin).
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gweriniaeth Altai Archifwyd 2016-03-13 yn y Peiriant Wayback