Altamira (ogof)
Saif Ogof Altamira gerllaw Santillana del Mar yn nhalaith ymreolaethol Cantabria yn (Sbaen). Yn yr ogof yma ceir arlunwaith Palaeolithig sydd gyda'r pwysicaf yn Ewrop.
![]() | |
Math | ogof gyda chelf cynhanesyddol, cofadeilad ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cave of Altamira and Paleolithic Cave Art of Northern Spain ![]() |
Lleoliad | Sbaen ![]() |
Sir | Santillana del Mar ![]() |
Gwlad | Sbaen ![]() |
Arwynebedd | 0.32 ha, 16 ha ![]() |
Uwch y môr | 95 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 43.37694°N 4.11975°W, 43.38333°N 4.11667°W ![]() |
Cyfnod daearegol | Magdalenian, Hen Oes y Cerrig ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Bien de Interés Cultural, rhan o Safle Treftadaeth y Byd, Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7e/Altamira-1880.jpg/300px-Altamira-1880.jpg)
Mae'r arlunwaith yn dyddio o'r cyfnodau Magdalenaidd a Solutreaidd, yn y Palaeolithig Diweddar. Darganfuwyd hwy yn 1879 gan Marcelino Sanz de Sautuola, ond bu dadlau am flynyddoedd a oeddynt yn wirioneddol yn dyddio o'r cyfnod yma; credai llawer o ysgolheigion na allai pobl Hen Oes y Cerrig fod yn gyfrifol am arlunwaith o gystal safon. Tua diwedd y 19g darganfuwyd arlunwaith tebyg yn Ffrainc. Mae dyddio carbon 14 wedi awgrymu dyddiad rhwng 15,000 a 12,000 CC. i'r lluniau yn Altamira, sef y cyfnod Magdalenaidd III.
Cyhoeddwyd yr ogof yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1985.