Diwylliant Aurignac

Diwylliant Aurignac yw enw'r diwylliant archaeolegol o gyfnod Hen Oes y Cerrig diweddar (Uwch Baleolithig) a geid yn Ewrop a de-orllewin Asia. Blodeuai tua 34,000 i 23,000 o flynyddoedd yn ôl. Tarddiad yr enw yw'r safle archaeolegol nodwedd ger Aurignac ger y Pyrenees yn Ffrainc. Mae rhai archaeologwyr yn ystyried fod y diwylliant Aurignacaidd yn gyfoes â'r diwylliant Périgordaidd a nodweddir gan ei offer carreg.

Crafydd Awrignaciaidd - Muséum de Toulouse

"La Paquette" golygu

Nodweddir diwylliant Aurignac gan "La Paquette", term sy'n disgrio'r cyfuniad o sgiliau gwneud offer cerrig newydd a datblygiadau pwysig ym myd celf; cafwyd rhai o'r enghreifftiau cynharaf o gelf yr ogofâu yn y diwylliant hwn. Roedd eu hoffer callestr yn fwy amrywiol a gorffenedig a gwnaethant addurnau, breichledau ifori hefyd. Mae'r soffistigeiddrwydd hyn yn arwain rhai archaeolegwyr i'w disgrifio fel y bodau dynol modern cyntaf yn Ewrop. Mae diwylliant Cro-Magnon, hefyd yn Ffrainc, yn perthyn i'r Aurignac ac yn dangos ei bod yn homo sapiens yn hytrach na Neanderthaliaid.

Gweler hefyd golygu