Alun Wyn Jones

Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymro

Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymro yw Alun Wyn Jones, OBE[1] (ganed 19 Medi 1985). Mae'n chwarae i'r Gweilch ac yn gapten ar dîm Cymru ers 2017.

Alun Wyn Jones
Ganwyd19 Medi 1985 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra198 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau117 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed Edit this on Wikidata
SafleClo Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Ar ôl chwarae dros Gymru ar lefel dan-21, enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn yr Ariannin.

Mae wedi chwarae dros Gymru fel blaenwr mewn nifer o safleoedd; yn ystod gemau'r Chwe Gwlad yn 2007 roedd yn safle clo.

Ef oedd capten tîm Cymru a enillodd y Gamp Lawn 2019 ac fe'i enwyd yn 'Chwaraewr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019'.[2]

Ar 29 Medi 2019, mewn gêm yn erbyn Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019, enillodd ei 130eg cap dros Gymru gan ddod y chwaraewr gyda'r mwyaf o gapiau, yn curo record Gethin Jenkins.[3]

Ar 24 Hydref 2020, daeth Jones yn gyfartal gyda record Richie McCaw am y nifer mwyaf o ymddangosiadau yn rygbi rhyngwladol, sef 148 cap, yng ngêm Cymru yn erbyn Ffrainc, a gollwyd 38-21.[4] Curodd y record yr wythnos ganlynol gyda 149 cap, wrth i Gymru chwarae yng ngêm olaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Mharc y Scarlets. Collodd Cymru y gêm 10–14 wrth i'r Albanwyr sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn erbyn Cymru ers 2002.[5]

Bywyd personol golygu

Mae'n briod a Dr Anwen Jones ac mae ganddynt ddwy ferch.[6]

Astudiodd yn rhan amser ar gyfer gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio yng Ngorffennaf 2010. Derbyniodd radd er anrhydedd gan y Brifysgol yng Ngorffennaf 2014[7]

Derbyniodd OBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020, am ei wasanaeth i Rygbi'r Undeb yng Nghymru.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Katie-Ann Gupwell; Lydia Stephens (9 Hydref 2020). "The full list of Welsh people honoured in Queen's Birthday Honours". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Hydref 2020.
  2. Enwi Alun Wyn Jones yn ‘Chwaraewr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019’ , Golwg360, 22 Mawrth 2019.
  3. Australia 25-29 Wales: Gatland's men hold out to win World Cup thriller (en) , BBC Sport, 29 Medi 2019. Cyrchwyd ar 24 Hydref 2020.
  4. Bywater, Alex (2020-10-24). "Jones admits need for improvement after France leave Wales beaten again". The Observer (yn Saesneg). ISSN 0029-7712. Cyrchwyd 2020-10-25.
  5. Cymru 10–14 Yr Alban , Golwg360, 31 Hydref 2020.
  6. Sands, Katie (17 Mawrth 2019). "The beautiful pictures of Wales' players celebrating Grand Slam with their families". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2019.
  7. Law graduate Alun Wyn Jones to get honorary degree , ITV Wales News, 17 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd ar 24 Hydref 2020.
  8. Anrhydeddau'r Frenhines am ymdrechion i atal Covid , BBC Cymru Fyw, 10 Hydref 2020.
Rhagflaenydd:
Sam Warburton
Capten tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru
2017 –
Olynydd:
presennol