Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin
Mae Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin, neu'r Pwmaod, yn cynrychioli'r Ariannin mewn gemau rhyngwladol rygbi'r undeb. Trefnir y tîm, sy'n chwarae mewn glas golau a gwyn, gan Undeb Rygbi'r Ariannin (UAR, o'r Sbaeneg: Unión Argentina de Rugby).
Hanes
golyguChwaraeodd y tîm eu gêm cyntaf yn 1910 yn erbyn tîm Ynysoedd Prydain. Ym mis Ebrill 2013 cafodd eu graddio yn wythfed yn y byd gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (BRRh), sef y tîm cryfaf ar gyfandir America. Mae'r Ariannin wedi cystadlu ym mhob Cwpan y Byd ers y cwpan cyntaf yn 1987. Mae'r tîm hefyd wedi ennill pob gêm yn eu hanes yn erbyn timau o gyfandir America, heblaw am ddwy golled yn erbyn Canada.
Serch bod pêl-droed yn fwy poblogaidd na rygbi yn yr Ariannin, Mae canlyniadau ardderchog y Pumas ers Cwpan Rugbi'r Byd 1999 wedi amlhau poblogrwydd y gêm yn arwyddocaol. Mae'r Ariannin wedi cwblhau nifer o fuddugoliaethau annisgwyl, yn arbennig yn Buenos Aires, ac yn gallu trechu timau Chwe Gwlad yn reolaidd. Cafodd yr Ariannin eu graddio yn bedwerydd gan y BRRh ar ôl buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Ffrainc yng ngêm cyntaf Cwpan Rygbi'r Byd 2007. Enillodd yr Ariannin eu grŵp heb golli gêm, a chyrraeddodd y tîm y rownd gynderfynol am y tro cyntaf, yn ennill 19–13 yn erbyn yr Alban yn y rownd gogynderfynol. Collasant 37–13 i Dde Affrica yn y rownd gynderfynol, ond enillodd y tîm gêm y trydydd safle, yn erbyn Ffrainc eto.
Dechreuodd y Pumas Cwpan Rygbi'r Byd 2011 gan golli 13–9 i Loegr, ar ôl arwain y gêm am fwy na 60 munud. Enillodd y tîm yn erbyn Rwmania 43–8. Y gêm nesaf, yn erbyn yr Alban, penderfynodd pa dîm wnaeth cyrraedd y rownd gogynderfynol. Enillodd yr Ariannin y gêm 13–12 ar ôl cais hwyr gan Lucas González Amorosino, Felipe Contepomi wnaeth trosi. Daeth yr Ariannin yn ail yn y grŵp drwy ennill 25–9 yn erbyn Georgia. Chwaraeodd yr Ariannin y Crysau Duon yn y rownd gogynderfynol; sgoriodd Julio Farias Cabello gais ar ôl hanner awr i arwain 7–6, ond goruchafodd y Crysau Duon y gêm, yn arwain i fuddugoliaeth 33–10 i Seland Newydd.
Ers 2012 mae'r Ariannin yn chwarae yn y Pencampwriaeth Rygbi, cystadleuaeth gydag Awstralia, De Affrica a Seland Newydd. Yn 2012 fe wnaeth y Pumas gystadlu yn y Pencampwriaeth heb ennill gêm, ond gorffennodd eu gêm yn erbyn De Affrica ym Mendoza yn gyfartal.