Dinas fechan yng Ngweriniaeth Crimea, Rwsia (Yr Wcráin hyd 2014), sy'n ganolfan wyliau glan môr yw Alushta (Rwseg, Алушта; Tatareg Crimea, Aluşta; Wcreineg, Алушта). Fe'i sefydlwyd yn y 6g gan yr Ymerodr Bysantaidd Justinian. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Du ar y ffordd arfordirol rhwng Gurzuf a Sudak. Mae ffordd dros Fwlch Angarskyi, ym Mynyddoedd Crimea, yn ei chysylltu â Simferopol.

Alushta
Mathtref/dinas, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Poblogaeth208, 429, 763, 1,172, 2,182, 4,800, 9,595, 13,193, 22,016, 28,547, 36,413, 38,200, 35,900, 31,440, 30,744, 30,493, 30,205, 29,913, 29,775, 29,504, 29,303, 29,191, 28,919, 28,642, 28,418, 29,078, 29,201, 29,586, 29,668, 29,869, 29,963, 30,088, 31,364 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 g Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iJūrmala, Dubna Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCyngor Dinas Alushta, Alushta Urban Okrug Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd6.983 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr50 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.6672°N 34.3978°E Edit this on Wikidata
Cod post98500–98519 Edit this on Wikidata
Map

Mae'r ardal yn nodedig am ei thirwedd greigiog. Ceir olion gwaith amddiffynnol Bysantaidd a chaer Genovaidd o'r 15g yno. Dan y Bysantaidd adnabyddid y dref fel Aluston (Αλουστον) a Lusta oedd yr enw yng nghyfnod rheolaeth Genova. Cyflwynodd y bardd Adam Mickiewicz ddau o'i sonedau am y Crimea i Alushta.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.