Gweriniaeth Crimea
Mae Gweriniaeth Crimea (Rwsieg: Республика Крым; Tatareg Crimea: Къырым Джумхуриети, Qırım Cumhuriyeti; Iwcraineg: Республіка Крим) rhanbarth o Wcráin a hawlir fel gan Rwsia fel pwnc ffederal. Mae'n gorchuddio Penrhyn y Crimea yn gyfangwbwl. O'i chwmpas mae'r Môr Du a Môr Azov, gyda de Wcrain i'r gogledd ohoni, a thir mawr Rwsia i'r gorllewin. Mae ei statws yn ddadleuol.
Math | gweriniaethau Rwsia, tiriogaeth ddadleuol |
---|---|
Prifddinas | Simferopol |
Poblogaeth | 1,896,393 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Hymn of Crimea |
Pennaeth llywodraeth | Yury Gotsanyuk |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, UTC+03:00, Europe/Simferopol |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Wcreineg, Tatareg y Crimea |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Deheuol, Rwsia Ewropeaidd |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 26,081 km² |
Yn ffinio gyda | Crai Krasnodar, Sefastopol, Kherson Oblast |
Cyfesurynnau | 44.9481°N 34.1042°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | State Council of the Republic of Crimea |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Head of the Republic of Crimea |
Pennaeth y wladwriaeth | Sergei Aksyonov |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prime Minister of Crimea |
Pennaeth y Llywodraeth | Yury Gotsanyuk |
Arian | Rŵbl Rwsiaidd, hryvnia |
Cafodd ei ffurfio ym Mawrth 2014 pan unodd yr hen Weriniaeth Ymreolaethol Crimea" gyda dinas Sevastopol— y ddau cyn hynny'n eiddo i Wcrain —yn un weriniaeth. Gwnaeth y ddau ranbarth ddatganiad o annibyniaeth a datganiad o ffyddlondeb i Rwsia ar 17 Mawrth wedi refferendwm lle gwelwyd 96% o’r trigolion yn pleidleisio o blaid gadael yr Wcrain ac ymuno â Rwsia.[1][2] Ar 21 Mawrth cafodd y weriniaeth newydd ei derbyn yn rhan o Ffederaliaeth Rwsia.
Nid yw statws y weriniaeth fel rhan o Rwsia yn cael ei gydnabod gan yr Undeb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau. Erbyn diwedd Mawrth 2014 cydnabuwyd statws y weriniaeth gan Armenia, Gweriniaeth Nagorno-Karabakh, Affganistan, Belarws, Nicaragwa a rhai gwledydd eraill.
Galeri
golyguGweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Golwg360; adalwyd 18 Mawrth 2014
- ↑ "Ukraine 'will never accept' Crimea annexation, President says". CNN. Cyrchwyd 17 March 2014.