Alvar Aalto
Roedd Hugo Alvar Henrik Aalto, (3 Chwefror 1898 – 11 Mai 1976) yn bensaer a dylunydd o’r Ffindir, a newidiodd ei arddull neo-glasurol cynnar ddiwedd y 1920au i'r modern rhyngwladol, mewn adeiladau megis llyfrgell Viipuri a neuadd breswyl y Massachusetts Institute of Technology (MIT).[1]
Alvar Aalto | |
---|---|
Ganwyd | 3 Chwefror 1898 Kuortane |
Bu farw | 11 Mai 1976 o clefyd cardiofasgwlar Helsinki |
Man preswyl | Villa Aalto |
Dinasyddiaeth | Y Ffindir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, cynllunydd, cynlluniwr trefol |
Adnabyddus am | Vyborg Library, Finlandia Hall, Baker House, Paimio Sanatorium, Säynätsalo Town Hall, Helsinki University of Technology Main Building, Aalto Theatre, Aalto Vase, Paimio Chair, Model 60 stacking stool, Turun Sanomat building, Aalto Center, Church of the Three Crosses, Aalto Centre, Rovaniemi |
Mudiad | moderniaeth |
Priod | Aino Aalto, Elissa Aalto |
Gwobr/au | Medal Aur Frenhinol, Medal y Tywysog Eugen, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Alvar Aalto Medal, Medal Aur AIA, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, honorary doctor of the Vienna Technical University, honorary Royal Designer for Industry, Medal Diwylliant ac Addysg, Cadlywydd Urdd Llew y Ffindir, Officier de la Légion d'honneur, Knight Grand Officer of the Order of the Dannebrog, Marchog Uwch Groes Urdd yr Hebog, Order of Merit of the Federal Republic of Germany, Grand Cross of the Order of the Lion of Finland, Chevalier de la Légion d'Honneur, Sonning Prize |
Gwefan | https://www.alvaraalto.fi |
llofnod | |
Fe’i ganed yn Kuortane, a chafodd ei addysg ym Mhrifysgol Dechnegol Helsinki. Ym 1938 aeth i UDA, lle bu'n dysgu yn MIT a Choleg Pensaernïaeth Cambridge, Massachusetts. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dychwelodd i'r Ffindir lle fu ganddo bractis pensaernïol rhyngwladol. Mae ei adeiladau nodweddiadol yn Llychlyn yn cynnwys llyfrgell Viipuri (1927-35), cartref gwella Paimio (1929-33), neuadd y dref yn Säynatsälo (1951), a Neuadd Gyngerdd Finlandia yn Helsinki (1971), ei adeilad olaf.
Y tu allan i Sgandinafia mae ei adeiladau pwysicaf yn cynnwys neuadd breswyl MIT (1947) a'r Maison Carré ger Paris (1956-58), a orffennodd gyda ddodrefn bentwood o'i gynllun ei hun, a gynlluniwyd ganddo ym 1932.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A Dictionary of Twentieth Century Biography, gol. Asa Briggs (Rhydychen, 1993)