Llychlyn
Gall Llychlyn neu Sgandinafia gyfeirio naill ai at benrhyn Llychlyn, sef y gorynys o gyfandir Ewrop sy'n cynnwys mwyafrif tiroedd Norwy a Sweden, neu'r rhanbarth o Ewrop sy'n cynnwys penrhyn Llychlyn ynghyd â phenrhyn Jutland. O ganlyniad, i fod yn fanwl gywir, dim ond Norwy, Sweden a Denmarc sy'n wledydd Llychlynnaidd.
Serch hyn, fe gyfeirir at y gwledydd Nordig fel Llychlyn yn aml iawn. Mae'r gwledydd Nordaidd yn cynnwys Norwy, Sweden, Denmarc, Gwlad yr Iâ, y Ffindir ynghyd â'u holl drefedigaethau. Weithiau, fe gynhwysir y gwledydd Baltaidd, yn enwedig Estonia, yn y diffiniad ehangach yma o Llychlyn, o ganlyniad i gysylltiadau ieithyddol a diwylliannol rhwng y Ffindir ac Estonia.
Nid yw llawer o drigolion Norwy, Sweden a Denmarc yn cytuno gydag unrhyw ddiffiniad o Llychlyn heblaw am yr un cyfyng sy'n cyfeirio at y tair gwlad yn unig.
Cynrychiolir y gwledydd yn y Cyngor Nordig sy'n cynnwys gwledydd Llychlyn a hefyd tiriogaethau tu hwnt ond sy'n rhannu iaith, traddodiad a hanes tebyg, megis Gwlad yr Iâ, Ynysoedd Ffaröe, a'r Ynys Las.
Ceir hefyd Undeb Kalmar a gynrychiolodd gyfnod yn yr Oesoedd Canol hwyr pan oedd Llychlyn wedi ei huno.