Vyborg

dinas yn Rwsia
(Ailgyfeiriad o Viipuri)

Tref a phorthladd yn Oblast Leningrad yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Vyborg. Saif ar Fae Vyborg yng Ngwlff y Ffindir, yng Nghuldir Carelia. Lleolir rhyw 70 milltir i ogledd-orllewin St Petersburg, nid nepell o'r ffin â'r Ffindir.

Vyborg
Mathtref/dinas, urban settlement in Russia, former municipality of Finland Edit this on Wikidata
Poblogaeth71,279 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1293 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Ramla, Bodø, Lappeenranta, Changzhou, Imatra, Hamina, Greifswald, Stirling, Jiaxing, Rechitsa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirVyborgskoye Urban Settlement Edit this on Wikidata
GwladRwsia Edit this on Wikidata
Arwynebedd160.847 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau60.7106°N 28.7497°E Edit this on Wikidata
Cod post188800–188811 Edit this on Wikidata
Map

Anheddwyd yr ardal ers y 12g, a chodwyd caer Viborg ar y safle gan luoedd Sweden ym 1293, wedi iddynt feddiannu Carelia yn Nhrydedd Groesgad y Swediaid. Cipiwyd y gaer gan fyddin Pedr I, tsar Rwsia, ym 1710 yn ystod Rhyfel Mawr y Gogledd. Daeth dan reolaeth y Ffindir ym 1918, a fe'i ailenwyd yn Viipuri. Cafodd ei ildio i'r Undeb Sofietaidd ym 1940 yn sgil Rhyfel y Gaeaf. Er i luoedd y Ffindir a'r Almaen feddiannu'r dref o 1941 i 1944, dychwelodd i reolaeth y Sofietiaid, ac wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd cafodd ei ail-adeiladu.

Mae Vyborg yn borthladd pwysig ar gyfer pysgota, ac hefyd yn meddu ar sawl iard i drwsio llongau. Mae diwydiannau eraill y dref yn cynnwys y felin lifio, gwneud dodrefn, a gweithgynhyrchu peiriannau ac offer trydanol. Denir hefyd dwristiaid gan draethau ac iechydfeydd Vyborg.

Gostyngodd y boblogaeth o 81,000 ym 1989[1] i 78,000 yn 2006.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Vyborg", The Columbia Encyclopedia. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 22 Hydref 2023.
  2. (Saesneg) Vyborg. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2023.