Alys (Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud)

Cymeriad ffuglennol o'r llyfrau Alice's Adventures in Wonderland a'i ddilyniant Through the Looking-Glass, a ysgrifennwyd gan Lewis Carroll, ydy Alice, hefyd Alys. Merch ifanc ydy Alys o Loegr Oes Fictoria.

Alys
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata

Datblygiad golygu

Mae'r cymeriad wedi'i seiliedig ar Alice Liddell, ffrind plentyn Charles Lutwidge Dodgson (enw go iawn Lewis Carroll) ond dywedodd Dodgson nid oedd ei 'arwres fach' yn seiliedig ar unrhyw plentyn go iawn a'r oedd yn hollol ffuglennol.[1] Portreadwyd Alys fel ferch rhesymegol, weithiau'n bedantig, yn arbennig gyda Humpty Dumpty yn yr ail lyfr. Mae Through the Looking-Glass yn dweud bod Alys yn saith-ac-hanner oed, ond mae hi'n aeddfed. Mae'r stori Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud yn digwydd ar 4 Mai, penblwydd Alice Liddell. Mae'r stori Through the Looking-Glass yn digwydd ar 4 Tachwedd, ei hanner-penblwydd (dywedodd Alys yn y llyfr ei bod hi'n "saith ac hanner yn union").

Amlinelliad y cymeriad golygu

Darlunir Alys yn boblogaidd wisgo ffrog ben-glin-hyd glas golau gyda pinaffor gwyn ar ben. Roedd y ffrog yn felyn yn wreiddiol yn The Nursery "Alice", y fersiwn cyntaf Alice's Adventures in Wonderland i ddefnyddio lliwiau. Yn y darluniau Through the Looking-Glass, mae Alys yn gwisgo rhuban llydan a, fel adlais i Alys, chaiff rwymynnau gwallt eu henwi 'Alice bands', yn arbennig yn y DU.

Lluniadwyd Alys yn gyntaf yn ddu a gwyn a byddai'r lliwiau yn newid o artist i artist; sut bynnag, yn y gweithiau lliw cynnar John Tenniel, roedd ffrog Alys yn las, roedd amlinell goch ar ei phinaffor gwyn a'r oedd gwallt golau ganddi[2] sy'n y ddelwedd fwyaf enwog Alys heddiw, fel y gwelir yn Disney. Lluniadodd Tenniel Alys mewn dau amrywiolyn, yn Through the Looking-Glass, mae mwy ryfflau ar binaffor Alys a mae hi'n gwisgo hosanau streipïog sy'n aros â'r ddelwedd Alys hyd heddiw.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cohen, Morton N. The Letters of Lewis Carroll, London, Macmillan (1979) ISBN 0333089790
  2. "John Tenniel illustration for Alice's Adventures in Wonderland (1865)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-10. Cyrchwyd 2010-09-15.

Dolenni allanol golygu